2016: Tipyn o bantomeim…

Mae amser y flwyddyn wedi cyrraedd; amser twtio’r tŷ a gosod tinsel, datgladdu’r siwmper Nadoligaidd a phrynu tocyn ar gyfer y panto. Er hynny, mae 2016 wedi bod yn dipyn o banto ei hunain, ac mae ‘na fwy o ddihirod ar gael nag arwyr.

Felly, dyma i chi stori Dafi bach Cameron, yn arwain ei griw o lanciau llon ar y llwybr i lymder, gan ddwyn o’r tlawd a’r anabl yn hapus eu byd. Hynny yw, nes bod rhai yn eu plith yn cwyno am y cyfieiriadau oedd Dafi bach yn dilyn, at wlad lle mae’r strydoedd ‘di palmantu’n aur. Wel, mae pob un pantomeim o safon yn gofyn am gyfranogiad cynulleidfa felly gofynnodd Dafi bach, a’i wep yn gwenu’n wirion:

“Beth ydych chi’n meddwl fechgyn a merched? Newn ni adael Ewrop?”

Doedd e ddim yn disgwyl y ceffyl Caerdroea a garlamodd ar y llwyfan bryd hynny. Farage a Boris – pen a phen-ôl yr un ceffyl pantomeim. Dylen nhw wedi bod yn destun chwerthin, yn ymbalfalu whip-stitsh gan falu awyr a rhaffu celwyddau ond diawl, ro’n nhw’n deall sut i roi sioe ymlaen. Er mawr arswyd i Dafi bach, cymeradwyodd y dorf at weld y fath berfformiad – yn canu a chwerthin – “Mwy! Mwy! Gadael Ewrop!”

Cyn pen dim, trodd bethau yn hyll. Yn yr holl bŵan a hwtian, sleifiodd Dafi bach o’r llwyfan. Yn sydyn, gan wynebu’r cyfrifoldeb enfawr o’i flaen, ffodd y ceffyl gan adael talp drewllyd o rywbeth yn stemian yng nghanol y llwyfan – ar gyfer rhywun arall i’w dacluso.

Ymlaen â hi, y ddirprwy – Mrs Myfyrgar. Mae pethau wedi bod braidd yn ddiflas ers iddi gamu mewn i’r sbot. Yr unig giamocs sy’ da hi i’w gynnig yw dewis ei thîm – tîn y ceffyl fel Ysgrifennydd Tramor? Sôn am gastio! Ond, “The show must go on!” meddai hi.

Roedd hi’n hen bryd am ‘chydig o adloniant ysgafn – ymlaen â’r sioe. Wele, Donald y Dêm! Fe chwarddom ni at ei gwallt hurt, at ei chroen lliw oren a’i hebychiadau gwirion gan feddwl mai dyna fyddai ei diwedd hi. Troiom ni at ddifyrrwch yr Olympaidd Rio, diolch byth at lwyddiant tîm pel-droed Cymru yn yr Ewros, at Andy Murray, pencampwr y byd tenis, a Tim Peake a ddychwelwyd o’r gofod yn saff. Ac mae pob un panto angen tylwythen deg felly diolch byth am Strictly Ed Balls, yn chwifio ei hudlath dros y lle a gwasgaru digon o lwch llachar i neud i bawb anghofio eu problemau.

Ond tra o’n ni’n edrych y ffordd arall, dyma gysgod yn syrthio dros y llwyfan.

Mae’r Dêm wedi selifio yn nôl, wedi chwipio ei chuddwisg bant i ymddangos – y gwalch! Beth yw hynny, chi’n gweud fechgyn a merched?

“Mae fe tu ôl i ti!”

 

Advertisements

Dysgwr y Flwyddyn

Mae fy nheulu a’m ffrindiau wedi bod yn fy hambygio ers blynyddoedd i fynd am Ddysgwr y Flwyddyn ond ro’n i wastod ‘di teimlo’n ddihyder. Wedyn, dechreuais i sgwenu nofel am griw o ddysgwyr yn Sir Gâr sy’n ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth. Wel, byddai hi wedi bod yn stori ddiflas pe tase fy nghymeriadau yn mynd ar siwrne ddi-anhawster felly bûm i’n dychmygu’r holl bethau all fynd o’u lle – sut y gall cystadleuydd gwympo ar ei wyneb, cywilddio ei hunan, siomi ei deulu, cael pobl i chwerthin ar ei ben. Sut fyddai hi’n teimlo i sefyll lan o flaen pawb … a ffaelu? Ar ôl i fi roi fy nghymeriadau trwy’r fath uffern, ro’n i’n tybio nad oedd hi mond yn deg fy mod i’n rhoi fy hunan drwy’r un peth.

Ro’n i’n wrth fy modd pan es i drwodd i’r rownd derfynol ac i fod yn rhan fach o’r Eisteddfod Genadlaethol ei hun. Dyma’r tro cyntaf i fi dreulio wythnos gyfan yn steddfota a nes i joio bob munud. Roedd y naws ar y maes yn fendigedig; ro’n i’n bwmpo i mewn i ffrindiau a’m cydnabod rownd bob cornel nes ‘mod i’n teimlo fel taswn i wedi dod i ddathliad teulu anferth. Profiad prin ac arbennig oedd hi hefyd i glywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad fel y mwyafrif.

Ar fore’r gystadleuaeth, tra o’n i’n aros ar gyfer fy nghyfweliad, es i i gaffi lleol yn Y Fenni i glirio fy meddwl. Mas o’r maes, ro’n i’n teimlo fel tase’n i wedi glanio’n ôl yn Surrey. Doedd dim arwyddion dwyieithog a gwelais i faneri Jac yr Undeb yn chwifio uwchben nifer o siopiau. Fe geisiodd y fenyw o’m blaen i yng nhiw y caffi archebu ei diod yn y Gymraeg. O’r stumiau dirmygus ar wep y boi tu-ôl i’r cownter, fe fyddech chi’n meddwl ei bod wedi gofyn am baned o bi-pi! Doedd dim ‘Sorry I don’t speak Welsh’ – fe syllodd y boi’n anghwrtais at y fenyw nes bod hi’n troi at Seasneg. Wnaeth e ddim hyd yn oed aros i’r fenyw adael y caffi cyn troi at ei gyd-weithwraig gan sibrwd yn filain. Felly pan ddaeth fy nhro i, troais i at y dyn gyda gwên orfelys a gofyn “Allai gael latte os gwelwch yn dda?”

Digwyddiad bach oedd e, mae’n siŵr ond un sy’n tanlinellu i mi pa mor ffodus rydw i wedi bod i ddysgu Cymraeg yn Sir Gâr. Dw i’n sylweddoli fy mod i wedi ei chymryd hi’n ganiataol fy mod i’n gallu gweud ‘Sut mae’ wrth unrhywun yng Ngaerfyrddin heb gael yr ymateb welais i yn Y Fenni.

Roedd pump ohonom ni yn y rownd derfynol, pob un yn rhugl yn y Gymraeg, pob un yn awchus i annog pobl newydd i ddysgu’r iaith. Cawson ni ein croesholi gan y beiriniad a gan aelodau o’r cyhoedd hefyd a ffilmiwyd y cyfan gan S4C. O’r diwedd, cyhoeddwyd yr enilllydd mewn seremoni yng ngwesty yr Angel, Y Fenni. Wel nes i ddim cwympo ar fy ngwyneb ond wnes i ddim ennill chwaith. Yn y diwedd Hannah Roberts gipiodd teitl. Nid yn unig ei bod hi wedi dysgu Cymraeg mewn ardal yr un mor Seisnigaidd â’r Fenni ond mae hi hefyd yn gweithio dros Fenter Iaith Blaenau Gwent, gan ysbrydoli pobl newydd i ddysgu’r iaith. Chwarae teg iddi – mae’r fenyw yn joio her!

Tra bo y pedair ohonom yn y rownd derfynol yn siomedig i beidio ag ennill, ro’n i’n ffodus iawn i fod yn cystadlu yn yr unig gystadleuaeth lle does neb yn colli. Rydym ni i gyd yn cael dod adre â’r wobr orau o’r cyfan – yr iaith Gymraeg.

 

 

 

Neil Hamilton am Ddysgwr y Flwyddyn!

Gall wersi Cymraeg dynnu’r bobl fwyaf anhebyg at ei gilydd – pobl o bob oedran a chefndir sy’ efallai yn rhannu dim byd yn gyffredin heb law am chwant am yr iaith Gymraeg. Dyw hi ddim yn saff i ddisgwyl bod y bobl sy’n rhannu’r wers yn rhannu’r un olwg ar y byd. Yn ôl Golwg yr wythnos hon, mae Neil Hamilton yn anelu at fod yn rhugl yn y Gymraeg yn y bum mlynedd nesaf. Roedd hi’n ddigon i hala fi i boeri fy mhaned dros y lle. Neil Hamilton? Yr un Neil Hamilton a chymrodd lemonau ei gywilydd yn San Steffan i neud lemonêd ar raglen realiti? Yr un Neil Hamilton sy’n disgrifio ei hun fel Cymro, ‘yr un mor Gymreig â Blackpool rock’ ? Fy ngreddf gyntaf oedd i ofyn a ydyn ni wir eisiau’r math yma o ddyn i frasgamu yn ei jac bŵts UKIP dros ein hannwyl babell ‘D’?

Ond wedyn, pam lai?

Yn amlwg, mae yn stynt ‘PR’ gan dîm Hamilton. Sai’n credu bod Hamilton na UKIP yn becso taten am Gymru, na’r iaith. Ar un adeg galwodd UKIP am ddirymiad y cynulliad. Dwywaith mae pamffledi UKIP wedi cael ei darparu gyda’r camsillafiad ‘Rhonnda’. Os bod Neil Hamilton yn rhugl yn y Gymraeg yn y bum mlynedd nesaf, fe fwytâf fy het. Ond mae’r stynt yn dangos un peth – mae gwleidyddion yn gweld pŵer yn yr iaith Gymraeg. Mae hi’n werth ei dysgu (neu, o leiaf mae gwerth mewn gweud eich bod chi mynd i’w dysgu hi). Ac os ein bod wir am i bawb ddefnyddio’r iaith, mae rhaid iddi adlewyrchu safbwyntiau amrywiol.

Bydde gwersi Cymraeg gyda Neil Hamilton yn werth i’w gweld. Dychmygwch yr olygfa:

Neil: Neil ydw i. Rydwi’n dod o Goed Duon yn wreiddiol.

Athrawes: Pam wyt ti’n dysgu Cymraeg, Neil?

Neil: Dwi eisiau twyllo’r pleidleiswyr i feddwl fy mod i’n becso am Gymru.

Athrawes: Da iawn Neil. Mae ‘pleidleiswyr’ yn air mawr.

Neil: Ti’n gweld? Mae’n gweithio!

Athrawes: Neil, beth am ofyn cwestiwn i dy bartner?

Neil: Beth wyt ti moyn i fi ofyn iddo fe?

Athrawes: Beth am: ‘a oes gen ti anifail anwes?’ Neu, ‘A oes gen ti unrhyw hobïau?’

Neil: Ac os dwi’n gofyn y cwestiynau hynny… faint wyt ti’n fodlon cynnig?

WLPAN amdani Neil! A phwy a wyr, mewn pum mlynedd… Neil Hamilton am Ddysgwr y Flwyddyn. Nawrte, dyna rhaglen realiti byddai’n gwylio!

Nadolig Llawen

Mae fy nghroten yn paratoi ar gyfer sioe ysgol y Nadolig. Ife Mair yw hi? Tafarnwr? Asyn, efallai? Nage siŵr! Mae’n fôr-leidr. Oherwydd, beth gall fod yn fwy Nadoligaidd na mor-leidr? (Heblaw am ei ffrindiau Nadoligaidd ‘Cranc’ ac ‘Estron’ wrth gwrs). I fod yn deg â’r athrawon, mae tipyn o her ‘da nhw bob blwyddyn i gadw’r hen draddodiad yn berthnasol ac yn fywiog ar gyfer y genhedlaeth ifanc. Sut gall hen asyn, criw o fugeiliaid a menyw feichiog gystadlu yn erbyn Octonots neu Ben Dant?

Dwi’n ffyddiog bydd y cyfan yn diweddu mewn beudy, gyda’r baban Iesu yn y preseb. Fe fydd plantos bach yn ei gynnau llofft a llieiniau sychu llestri ar eu pennau, yn dal ffon tad-cu wedi’i throi’n ffon fugail. A dyna’r pwynt, nagefe? Mae’r ffordd o gyrraedd at y stori yn newid efallai ond mae neges y Nadolig yn parhau yr un.

Straeon yw fy hoff bethau. Dwi’n joio’u darllen nhw a’u hysgrifennu nhw gymaint, fel mod i wedi dechrau astudio ar gyfer MA mewn ‘Ysgrifennu Creadigol’ ym Mhrifysgol Abertawe. Mae un o’m darlithwyr yn mynnu does ond dau fath o stori: ‘Yr Ymchwil’, lle mae’r arwr yn gadael cartref i chwilio am rywbeth, a’r ‘Gwarchae’, lle mae dieithryn yn dod i’r dre ac yn newid popeth sy’n gyfarwydd. Pan y’ch chi’n ystyried y peth, rhwng y bugeiliaid, y seren a’r enedigaeth, mae stori’r Geni yn llwyddo ticio’r bocsys i gyd, chwarae teg.

Mae straeon yn rhan fawr o’r Nadolig. Fe fydd Nadolig Plentyn yng Nghymru yn bownd o fod ar y radio rhywbryd dros y gwyliau, fe fydd pantomeimiau, ac wrth gwrs ffilmiau’r Nadolig ar y teledu. Pan ro’n i’n tyfu lan roedd un ffilm ar y teledu bob Nadolig yn ddi-ffael; ac yn fy marn i, mae’n darlunio’r stori fwyaf erioed sef Superman.

Meddyliwch am y peth, mae’r ffilm yn hen erbyn hyn ond mae’r stori’n un galonogol ac yn ysbrydoledig o hyd. Os nas ydych chi wedi gweld y ffilm ers talwm, gadewch i fi eich atgoffa chi. Mae’n hanes am Kal-el; bachgen bach arbennig sy’n cael ei anfon i’r ddaear o’r nefoedd. Ei dynged yw newid y byd am byth wrth achub dynoliaeth o… wel, o’i hunan a dweud y gwir. Er bod Kal-el yn dda ac yn garedig, mae’n wynebu’r drwg ac amheuaeth, ond yn y pen draw, mae’r da yn ennill. Mae e’n dysgu dynol-ryw beth yw cariad anorfod.

Yn fy marn i, dyna’r stori orau a fu. Ond eto, mae’n swnio’n hen ac yn gyfarwydd, nag yw hi?

 

 

 

 

 

Benjamin Zephania yn ymweld â’r Eisteddfod

Ond oedd hi’n dipyn o beth i weld Benjamin Zephania’n camu mas ar y Maes eleni? Roedd hi’n bleser i weld bardd o Loegr yn mentro mewn i’r diwylliant Cymreig mor fodlon a diduedd. Ar ei raglen deledu ar BBC4 wedodd,

“I feel kind of ashamed that here I am, a British person talking about multi-culturalism, and I can speak Urdu but I can’t speak Welsh.”

Dwi’n gobeithio yr oedd cynhyrchwyr ‘Cariad at Iaith’ yn talu sylw at hwnna; fe fydde fe’n gystadleuydd gwych!

Wnes i gyd-synfyfyrio gydag e pan aeth i weld seremoni Gorsedd y Beirdd a dysgu am gerdd dant. Fel dieithryn, mae hi’n fyd hollol ryfeddol. Ond i fi, uchafbwynt y rhaglen oedd Twm Morys yn perfformio cynghanedd yn Saesneg. Mae’n rhaid i fi gyffesu dydw i byth wedi deall cynghanedd tan ‘ny. Roedd e wastod ‘di swnio i’n ‘nghlust i fel clymau tafod – rhy gymhleth i fi ddeall. Ond wrth glywed cynghanedd yn fy iaith i, fe darodd pŵer a hud y cyfrwng fel taranfollt – nes i ddeall o’r diwedd. Er hynny, wnaeth e hala fi i deimlo braidd yn drist hefyd wrth sylweddoli pa mor bell sy’ da fi i fynd nes ‘mod i’n gallu gwerthfawrogi barddoniaeth yn y Gymraeg.

Un peth naeth wneud i fi deimlo’n anghyffyrddus oedd diwedd y rhaglen pan wedodd Zephania:

“They’re not pushing it on you. This is not Welsh culture trying to take over English culture… it just happens for them. Take it or leave it.”

Pam oedd e’n gorfod egluro hynny tybed? Mae’r Eisteddfod yn digwydd yng Nghymru wedi’r cwbl – nid Lloegr!

Newydd frwdfrydu o’i ymweliad i’r Eisteddfod, cyhoeddodd Zephania dyle’r Gymraeg cael ei ddysgu yn ysgolion Lloegr. Syniad grêt… ond annhebygol dwi’n meddwl. Pam fydd plant eisiau dysgu’r Gymraeg tra dy’ nhw ddim gwybod braidd dim am y wlad a’i lle ym Mhrydain? Pwysicach yn fy marn i yw dysgu hanes Prydeinig – sy’n cynnwys Iwerddon, yr Alban a Chymru. Eto, annhebygol. Fe fydd hynny yn codi gormod o gwestiynau llechwith am imperialaeth Lloegr a’i echryslonderau.

Yn fy mhrofiad i, mae’r genedl hŷn yn Lloegr yn cael trafferth mawr i dderbyn y ffaith bod Prydain wedi cael ei neud yn ‘fawr’ ar gefnau’r rhai yr oedd hi wedi sathru arnynt. Dwi’n cofio cael sgwrs am India:

“Fe gipiom ni adnoddau eu gwlad, eu gorfodi nhw i siarad Saesneg a’u troi nhw’n ddinasyddion ail-ddosbarth yn eu gwlad eu hun,” wedais i.

“Ah, but at least we gave them roads,” daeth yr ateb.

Felly beth roesom ni i’r Cymry, tybed? Dwi’n dal i bendroni ar hynny.

Rheolau Cymreig

Cusanwraig ydw i. Dim byd dros ben llestri – dwi ddim yn glafoeri dros bawb – ond cwtsh bach a chusan ar eich boch i weud ‘Croeso’, ‘pob hwyl’, ‘diolch’… Dyma’r ffordd nes i gael fy magu. Dwi’n teimlo’n lletchwith wrth hongian oamgylch y drws wrth ffarwelio. Os nad dych chi’n rhoi cwtsh, beth y’ch chi fod neud? Chwifio yng ngwyneb eich ymwelwr?

Er hynny, mae cofleidio aelod o ‘nheulu Cymreig yn teimlo ychydig bach fel rhoi cwtsh i’r bwrdd smwddio. Cyn pen dim, roedd rhaid i fy ngŵr gael gair bach ‘da fi.

“Stopia cusanu fy nheulu… dydyn nhw ddim yn ei hoffi fe! Ti jyst yn hala nhw i deimlo’n anghyffyrddus!” meddai fe.

Mae’n debyg fy mod i’n sathru dros fwy na rheolau gramadeg Cymraeg. Mae ‘na côd anysgrifenedig am sut i fihafio hefyd!

Yn fy mhrofiad i, gall y Cymry Cymraeg fod braidd yn ddywedwst mewn cymhariaeth â’r Saeson. Lle yn Saesneg ni’n gweud, “Send her my love,” chi’n gweud, “Cofia fi ati,” sy’n eithaf ymatalgar mewn cymhariaeth. Ond – fe fydd fy ngŵr yn dadlau – yn fwy diffuant efallai. Wrth groesawi fy nheulu i’n tŷ, fe fyddai’n taflu tusw o eiriau atyn nhw: “Hello, how are you? Come on in, how was your journey? It’s so lovely to see you!” Mae hynny yn gyferbyniad mawr i’r ffordd mae fy ngŵr yn croesawi ei deulu e. Fel arfer wneith yr un gair i’r dim: “Areit?”

Gall y rheol ‘chi’ a ‘ti’ fod yn astrus i fi. Er enghraifft, pam ydych chi fod galw’r Parch yn ‘chi’ ond Duw ei hun, yn ‘ti’? Fe fagwyd ‘ngŵr i alw ei rieni yn ‘chi’. Mae hynny wastod ‘di taro fi’n ffurfiol ofnadwy. Dwi methu dychmygu gweud wrth fy Mam i,

“Rwy’n eich caru chi, Mam.”

Ond dyna reol arall i fi ddysgu – ry’ chi fod safio tywalltiadau teimladol am argyfyngau yn unig: priodasau… genedigaethau… gwelyau angau!

Dwi’n gor-ddweud wrth gwrs. Dwi erioed ‘di clywed rhiant o fy nghenhedlaeth i yn mynnu ar ‘chi’ parchus o’i phlentyn ac mae digon o famau a thadau sy’n dangos hoffter at eu plant. Mae diwylliant yn newid mae’n siŵr.

Er hynny, basau’n ormod i ddisgwyl i’r genhedlaeth hŷn i newid eu ffordd o foes ac arfer. Rwyf wedi ceisio cael fy nhad-yng-nghyfraith i ngalw i’n ‘ti’ ers blynyddoedd. Ro’n i’n eithaf dicllon am sbel. Ro’n i’n tybio, roedd e’n ceisio dweud fy mod i ddim rhan o’r teulu – fe fyddai wastod yn ymwthiwraig. Chwe blynedd wedyn, dwi’n llai sensitif am y peth. Rwyf wedi dysgu fe fydd Dat yr un mor anghyffyrddus yn galw fi yn ‘ti’ a fydden i tasen i’n ei alw e’n ‘Mr Snuggles’. Dwi’n dysgu’r ffordd Gymreig yn slo bach ac erbyn hyn, dwi’n safio fy nghusanau ar gyfer y rhai dwi’n eithaf siŵr sy’ ddim mynd i arswydo rhag yr ystum!

A oes gormod o Saeson yng Nghymru?

Fe ges i sioc gas i weld llwyddiant UKIP yn yr etholiad mis diwethaf. A dweud y gwir, dw’i ddim yn deall yr atyniad o UKIP i’r Cymry. Os ych chi am fod yn genedlaetholwr, dylech chi o leiaf fod yn genedlaetholwr Cymreig! Tabeth.

Diolch i Nigel Farage mae David Cameron yn gorfod cynnal refferendwm am Ewrop, refferendwm sy’n bygythio tynnu Cymru mas o Ewrop os ei bod hi eisiau neu beidio. Wrth gwrs, mae’r Siwper Saeson yn Surrey yn ysu gadael yr EU er mwyn “adennill hawliau sofren Prydain.” (Beth bynnag mae hynny yn golygu.) Er hynny, fe fydd gadael Ewrop yn gwneud pethau’n hynod o gymhleth i nifer o’u ffrindiau sy’n berchen tai haf yn Ffrainc a Sbaen. Y gwir yw, mae’r Saeson yn cymeryd mantais o’r rhyddid i symud drwy Ewrop yn ddiderfyn cymaint ag unrhyw genedl arall. Fe ofynnais i ffrind fy rhieni, sy’n treulio ei ymddeoliad yn Sbaen, sut mae ei Sbaeneg yn dod ymlaen. Roedd e’n meddwl fy mod i’n jocan! Fe wawdiodd,

“As far as I’m concerned, there are two languages in the world: English and foreign.”

Mae e a’i wraig yn byw mewn cymuned ‘ex-pat’ heb gymysgu gyda’r brodorion, heb ddysgu unrhywbeth am yr iaith na’r diwylliant lleol. Serch hynny, nhw yw’r un math o bobl sy’n debygol i ddilorni’r holl ‘dramorwyr’ sy’n dod i Loegr, sy’n ffaelu dysgu Saesneg ac sy’n pallu byw yn ôl arferion Prydeinig.

Yn ôl David Cameron, ni fydd hawl i ddinasyddion Ewrop sy’n byw ym Mhrydain bleidleisio yn y refferendwm. Tybid fe fydden nhw bleidleisio dros y system bresennol sy’n eu manteisio nhw. Ar y llaw arall, fe fydd hawl i ddinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor bleidleisio. Mae hynny’n fy nharo i fel betio bob ffordd. Roedd y mater yn wahanol ynglŷn â refferendwm yr Alban. Roedd hawl gydag unrhywun sy’n byw yn yr Alban bleidleisio… yn cynnwys Saeson. Mae rhai o’r farn taw’r Saeson yn yr Alban wnaeth droi’r bleidlais yn erbyn annibyniaeth.

Yn ôl ffigurau diwethaf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol mae 22 y cant o boblogaeth Cymru’n dod yn wreiddiol o rywle arall ym Mhrydain a’r rhan fwyaf o’r rheiny, o Loegr. Os bod y patrwm o fewnfudiad yn parhau, gall y Cymry yng Nghymru droi’n lleiafrif mewn 70 mlynedd. Pe tase Cymru byth mewn sefyllfa i gael refferendwm dros aros yn y Deyrnas Unedig, fe fydd llais y Cymry yn cael ei foddi gan lais yr holl Saeson sy’ wedi symud mewn.

Ond wedyn, nid gelyn i’r ffordd Gymreig o fyw yw pob un Sais neu Saesnes sy’n symud yma. Dwi’n nabod digon o Saeson sy’n danfon eu plant i’r ysgol Gymraeg ac sy’n cefnogi’r diwylliant lleol. Does dim byd i ofni am fewnfudiad os bod y bobl sy’n symud mewn i’r wlad yn parchu’r traddodiadau ac arferion – a’r iaith – y wlad. Beth sy’n codi ofn arna i yw’r rheiny sy’ eisiau gosod cymuned fach ex-pat yma – Lloegr bach yng Nghymru. Ond wrth sgwennu’r geiriau yma, dwi’n dechrau teimlo bach yn anghyffyrddus. Dwi’n dechrau swnio fel Nigel Farage. Arghhh!