Dwi’n caru geiriau. Dwi’ fel pioden – pan dwi’n dod o hyd i air newydd dwi’n ceisio’i ddefnyddio’n syth. Mae fel petai bod sgidiau newydd ‘da fi – dwi eisiau trio nhw mas a gweld os dwi’n gallu cerdded ynddynt heb faglu. Dwi wrth fy modd a geiriau prydferth ac rhyfeddol fel ‘synfyrfyrio’, ‘lapswchan’, ‘pendilio’, a ‘ling di long’. Ond – yn fy marn ostyngedig i – mae un diffyg gyda’r iaith Cymraeg: rhegu. Fi’n gwybod dyw e ddim yn fawr, dyw e ddim yn glyfar ond dwi wrth fy modd yn rhegu. Ac os bo chi angen – rili ANGEN – gair pedair llythyren i ddweud eich meddwl, mae rhaid i chi droi at Sacsoneg. Ond yw e’n od taw’r geiriau cryfaf yw rhai sy’ wedi newid y lleiaf dros y canrifau. Roedd hyd yn oed Shakespeare wedi mwyseirio “country matters.” (Mawr. Clyfar.)
Felly ble mae’r holl regfeydd yn y Gymraeg? A oes diffyg achos bod y Cymry yn bobl parchus, crefyddol ac addfwyn? Neu ydy rhegfeydd rhywbeth arall mae Saesneg wedi ei sathru?
Fe weithiais i yn y byd teledu yn Llundain am rhai blynyddoedd. Roedd hyd yn oed y BBC yn ferw gan rhegfeydd. Mae’n rhan o’r diwylliant teledu – yn ogystal â gwisgo sbectol haul anferth o dan dô a thyfu barf anferthol. ‘Hipster chic’ yndyfe?
Ar ôl i fi ddechrau gweithio yn y byd teledu yng Nghymru chlywais i’r un F**K am fisoedd. Roedd hyd-yn-oed ‘bloody’ yn cael ei droi i ‘Blincin’. Felly y tro cyntaf glywais i fy mos yn ebychu “Mynyffarch!” ro’n i’n siwr roedd rhywbeth mawr o’i le. Roedd rhywun mewn trwbwl – efallai fi oedd y ‘motherclucker’ dan sylw! Ro’n i braidd yn siomedig i ddarganfod roedd e mond yn gweud ‘hellfire’ achos roedd wedi gollwng ei goffi.
Er hynny, dwi’n defnyddio ‘mynyffarch’ fy hun erbyn hyn. Ond nid yn y Capel. Mae’n debyg dyw e ddim yn addas. Dyw e ddim yn addas chwaith i weud wrth eich tad yng nghyfraith (sy‘ yn ei wyth degau) bod rhywun ar y teledu yn ‘malu cachu’. A dweud y gwir, mae e wedi cael ei arfer i’m Cymraeg ceffyl. Un gaeaf rhybyddiais i iddo fe fod yn ofalus wrth adael y tŷ achos roedd “lot o rhyw ar y heol.”
Mae’n well i fi jyst osgoi rhai geiriau. Dwi’n fam nawr a does neb eisiau clywed ei Mam yn siarad yn fochedd, hyd yn oed os nad yw hi’n deall yn iawn ystyr ei geriau. Sawl gwaith i fi wedi ceisio stopio fy mam rhag galw ei chwpwrdd-dan-star, yn ‘glory hole’. Does dim ots faint o weithiau dwi’n esbonio, Na Mam, dyw ‘glory hole’ ddim yn meddwl ‘rhywle ti’n stwffio pethau er mwyn tacluso nhw’n glou…’
Erthygl diddorol iawn, heb sylwi fy hunan beth yw ysytyr Mynyffarch, yn wastad wedi meddwl bod hi’n waeth na hynny. Beth twll-y-din, ti di clywed am hynny.
HoffiHoffwyd gan 1 person