Mae’n debyg roedd rhyw gêm rygbi ar y teledu bythefnos yn ôl. Dydyn ni ddim yn dilyn rygbi yn ein tŷ ni ond roedd hi’n anodd ysgoi ymateb yr holl gefnogwyr o’r ddwy ochr ar Facebook. Roedd nifer o bobl yn gweud pethau sbortsmonaidd ond roedd un boi – Sais, yn anffodus – wedi gadael ein hochr ni lawr. Fe gyhoeddodd e ar Facebook:
“The welsh rugby team look exactly like every welsh person I know, just in varying scales.” (sic)
Dylen i fod wedi ymateb:
“Fi’n gwybod, mae dau lygaid, trwyn a cheg gyda phob un ohonynt!”
Ond wnês i ddim. Cachgu ydw i.
Siwr o fod fe fydd e’n gweud fy mod i’n groendenau ac yn Saesnes felly beth yw’r ots? Mae’r dyn a ysgrifenodd y ‘ffraethineb’ hon yn ifanc, addysgedig – dosbarth canol. Y math o ddyn sy’n darllen The Guardian. Pe tase rhywun wedi sgwennu, “Mae’r tîm Tseieniaidd yn edrych fel pob person Tseiniaidd fi’n nabod,” siwr o fod, fe fydd y fath iaith yn ei ddigio fe. Felly pam dyw e ddim yn gallu gweld pa mor hiliol yw ei agwedd e yn erbyn y Cymry?
Roedd yr un fath o ddallineb tuag at hiliaeth yn amlwg pan wedodd un cynghorydd o’r Blaid Lafur bod enw Rhun ap Iorwerth yn “rhy Gymreig.” A fydd yr un person yn fodlon disgrifio enw Sajid Javid o’r Blaid Geidwadol yn “rhy Bakistani?” Mae hiliaeth anystyriol mor gyffredin yn Lloegr, dyw’r Saeson ddim hyd yn oed yn ei gydnabod.
Cyn i fi symud i Gymru, wnês i ddim yn deall pam oedd ‘tsip’ ar ysgwydd fy ngŵr am ‘jôciau’ yn erbyn Cymru. Erbyn hyn dwi’n gallu gweld pa mor gyffredin yw’r holl beth a pha mor syrffedus. Ro’n i’n trafod hyn gyda ffrind fy nheulu (Sais). Edrychodd e arnai’n ddirmygus cyn gweud fy mod i wedi cael fy mhwylltreisio! Mae’n debyg, dwi methu bod yn Saesnes go iawn heb fod yn watwarus am Gymru.
Pan gyrhaeddodd ein mab, ddwedom ni wrth fy rhieni taw Atticus oedd ei enw – ‘Atti’ fel llysenw, ond daeth ‘nhad lan gyda llysenw ei hun; ‘Taffy’. Wnês i geisio tynnu sylw at y ffaith bod ‘Taffy’ yn derm hiliol a pe tasen i wedi priodi â dyn du, a fydde fe wedi meddwl bod ‘darky’ yn lysenw addas ar gyfer ei ŵyr?
“Paid bod yn ffôl!” wedodd ‘nhad, “Dyw e ddim yn sarhaus – mae’n air anwes!”
“Hmm…” wedais i, “Yn gwmws fel ‘chinky’ neu ‘darky’ neu ‘Paki’ yfe?”
Allwch chi ddychmygu unrhywun yn defnyddio geiriau fel na mewn tôn cariadus?
“Chinky! Darky! Paki! Dewch mewn am swper! Mae’ch bwyd ar y bwrdd!”
Sai’n credu.
Diddorol iawn ac hollol wir, diolch.
HoffiHoffwyd gan 1 person