A oes gormod o Saeson yng Nghymru?

Fe ges i sioc gas i weld llwyddiant UKIP yn yr etholiad mis diwethaf. A dweud y gwir, dw’i ddim yn deall yr atyniad o UKIP i’r Cymry. Os ych chi am fod yn genedlaetholwr, dylech chi o leiaf fod yn genedlaetholwr Cymreig! Tabeth.

Diolch i Nigel Farage mae David Cameron yn gorfod cynnal refferendwm am Ewrop, refferendwm sy’n bygythio tynnu Cymru mas o Ewrop os ei bod hi eisiau neu beidio. Wrth gwrs, mae’r Siwper Saeson yn Surrey yn ysu gadael yr EU er mwyn “adennill hawliau sofren Prydain.” (Beth bynnag mae hynny yn golygu.) Er hynny, fe fydd gadael Ewrop yn gwneud pethau’n hynod o gymhleth i nifer o’u ffrindiau sy’n berchen tai haf yn Ffrainc a Sbaen. Y gwir yw, mae’r Saeson yn cymeryd mantais o’r rhyddid i symud drwy Ewrop yn ddiderfyn cymaint ag unrhyw genedl arall. Fe ofynnais i ffrind fy rhieni, sy’n treulio ei ymddeoliad yn Sbaen, sut mae ei Sbaeneg yn dod ymlaen. Roedd e’n meddwl fy mod i’n jocan! Fe wawdiodd,

“As far as I’m concerned, there are two languages in the world: English and foreign.”

Mae e a’i wraig yn byw mewn cymuned ‘ex-pat’ heb gymysgu gyda’r brodorion, heb ddysgu unrhywbeth am yr iaith na’r diwylliant lleol. Serch hynny, nhw yw’r un math o bobl sy’n debygol i ddilorni’r holl ‘dramorwyr’ sy’n dod i Loegr, sy’n ffaelu dysgu Saesneg ac sy’n pallu byw yn ôl arferion Prydeinig.

Yn ôl David Cameron, ni fydd hawl i ddinasyddion Ewrop sy’n byw ym Mhrydain bleidleisio yn y refferendwm. Tybid fe fydden nhw bleidleisio dros y system bresennol sy’n eu manteisio nhw. Ar y llaw arall, fe fydd hawl i ddinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor bleidleisio. Mae hynny’n fy nharo i fel betio bob ffordd. Roedd y mater yn wahanol ynglŷn â refferendwm yr Alban. Roedd hawl gydag unrhywun sy’n byw yn yr Alban bleidleisio… yn cynnwys Saeson. Mae rhai o’r farn taw’r Saeson yn yr Alban wnaeth droi’r bleidlais yn erbyn annibyniaeth.

Yn ôl ffigurau diwethaf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol mae 22 y cant o boblogaeth Cymru’n dod yn wreiddiol o rywle arall ym Mhrydain a’r rhan fwyaf o’r rheiny, o Loegr. Os bod y patrwm o fewnfudiad yn parhau, gall y Cymry yng Nghymru droi’n lleiafrif mewn 70 mlynedd. Pe tase Cymru byth mewn sefyllfa i gael refferendwm dros aros yn y Deyrnas Unedig, fe fydd llais y Cymry yn cael ei foddi gan lais yr holl Saeson sy’ wedi symud mewn.

Ond wedyn, nid gelyn i’r ffordd Gymreig o fyw yw pob un Sais neu Saesnes sy’n symud yma. Dwi’n nabod digon o Saeson sy’n danfon eu plant i’r ysgol Gymraeg ac sy’n cefnogi’r diwylliant lleol. Does dim byd i ofni am fewnfudiad os bod y bobl sy’n symud mewn i’r wlad yn parchu’r traddodiadau ac arferion – a’r iaith – y wlad. Beth sy’n codi ofn arna i yw’r rheiny sy’ eisiau gosod cymuned fach ex-pat yma – Lloegr bach yng Nghymru. Ond wrth sgwennu’r geiriau yma, dwi’n dechrau teimlo bach yn anghyffyrddus. Dwi’n dechrau swnio fel Nigel Farage. Arghhh!

Un sylw am “A oes gormod o Saeson yng Nghymru?

  1. Sylwadau diddorol iawn. Dwi ddim yn gwybod beth yw pwysigrwydd nac arwyddocâd lleoliad eich genedigaeth. Pa ots ble rydych chi wedi cael eich gwthio i mewn i’r byd?

    Mae pobl hefyd yn anghofio bod 50% o boblogaeth Cymru yn byw yn agos at y ffîn ac felly mae’n hawdd i ffeindio llwyth o Gymry sydd wedi eu geni yn yr ysbyty agosaf dros y ffin. Mae hyd yn oed rhai o’n Cymry amlycaf i gyd wedi eu geni dros y ffin fel Dafydd Wigley, Steve Eaves a Ceri Wyn Jones.

    Yn anffodus mae yna rai ardaloedd yng Nghymru sydd yn awr yn gymunedau expat fel y rhai ti’n disgrifio yn Sbaen. Mae’r Bermo, Aberdyfi a Thywyn wedi eu colli heb unrhyw obaith o adfer yr iaith yn iawn yno.

    Hefyd mae nifer o bobl yn anghofio mai all-lifiad yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu’r Gymraeg. Does dim economi i gynnal pobl yn yr hen gadarnleoedd ac mae’r llif o Gymry ifanc i Gaerdydd, Bryste a Llundain yn gwbl naturiol. Nid oes y fath beth â gwlad bur. Mae 35% o boblogaeth Latfia a 25% o Estonia yn Rwsiaid. Mae 22% o Macedonia yn Albaniaid – nid Cymru yw’r unig wlad sydd fel hyn.

    Ond fe wnaeth un peth wir fy ypsetio yn ddiweddar – cwpl o Lundain wedi sefydlu caffi ym Mhenbryn. Dim gair o Gymraeg a nhwythau wedi cael gwared ar enw’r adeilad a’i ailenwi fel ‘The Plwmp Tart’. Amharch a sarhad llwyr. Gobeithio’n fawr na fydd pobl leol yn eu cefnogi.

    Hoffi

Gadael sylw