Mae fy nghroten yn paratoi ar gyfer sioe ysgol y Nadolig. Ife Mair yw hi? Tafarnwr? Asyn, efallai? Nage siŵr! Mae’n fôr-leidr. Oherwydd, beth gall fod yn fwy Nadoligaidd na mor-leidr? (Heblaw am ei ffrindiau Nadoligaidd ‘Cranc’ ac ‘Estron’ wrth gwrs). I fod yn deg â’r athrawon, mae tipyn o her ‘da nhw bob blwyddyn i gadw’r hen draddodiad yn berthnasol ac yn fywiog ar gyfer y genhedlaeth ifanc. Sut gall hen asyn, criw o fugeiliaid a menyw feichiog gystadlu yn erbyn Octonots neu Ben Dant?
Dwi’n ffyddiog bydd y cyfan yn diweddu mewn beudy, gyda’r baban Iesu yn y preseb. Fe fydd plantos bach yn ei gynnau llofft a llieiniau sychu llestri ar eu pennau, yn dal ffon tad-cu wedi’i throi’n ffon fugail. A dyna’r pwynt, nagefe? Mae’r ffordd o gyrraedd at y stori yn newid efallai ond mae neges y Nadolig yn parhau yr un.
Straeon yw fy hoff bethau. Dwi’n joio’u darllen nhw a’u hysgrifennu nhw gymaint, fel mod i wedi dechrau astudio ar gyfer MA mewn ‘Ysgrifennu Creadigol’ ym Mhrifysgol Abertawe. Mae un o’m darlithwyr yn mynnu does ond dau fath o stori: ‘Yr Ymchwil’, lle mae’r arwr yn gadael cartref i chwilio am rywbeth, a’r ‘Gwarchae’, lle mae dieithryn yn dod i’r dre ac yn newid popeth sy’n gyfarwydd. Pan y’ch chi’n ystyried y peth, rhwng y bugeiliaid, y seren a’r enedigaeth, mae stori’r Geni yn llwyddo ticio’r bocsys i gyd, chwarae teg.
Mae straeon yn rhan fawr o’r Nadolig. Fe fydd Nadolig Plentyn yng Nghymru yn bownd o fod ar y radio rhywbryd dros y gwyliau, fe fydd pantomeimiau, ac wrth gwrs ffilmiau’r Nadolig ar y teledu. Pan ro’n i’n tyfu lan roedd un ffilm ar y teledu bob Nadolig yn ddi-ffael; ac yn fy marn i, mae’n darlunio’r stori fwyaf erioed sef Superman.
Meddyliwch am y peth, mae’r ffilm yn hen erbyn hyn ond mae’r stori’n un galonogol ac yn ysbrydoledig o hyd. Os nas ydych chi wedi gweld y ffilm ers talwm, gadewch i fi eich atgoffa chi. Mae’n hanes am Kal-el; bachgen bach arbennig sy’n cael ei anfon i’r ddaear o’r nefoedd. Ei dynged yw newid y byd am byth wrth achub dynoliaeth o… wel, o’i hunan a dweud y gwir. Er bod Kal-el yn dda ac yn garedig, mae’n wynebu’r drwg ac amheuaeth, ond yn y pen draw, mae’r da yn ennill. Mae e’n dysgu dynol-ryw beth yw cariad anorfod.
Yn fy marn i, dyna’r stori orau a fu. Ond eto, mae’n swnio’n hen ac yn gyfarwydd, nag yw hi?