Gall wersi Cymraeg dynnu’r bobl fwyaf anhebyg at ei gilydd – pobl o bob oedran a chefndir sy’ efallai yn rhannu dim byd yn gyffredin heb law am chwant am yr iaith Gymraeg. Dyw hi ddim yn saff i ddisgwyl bod y bobl sy’n rhannu’r wers yn rhannu’r un olwg ar y byd. Yn ôl Golwg yr wythnos hon, mae Neil Hamilton yn anelu at fod yn rhugl yn y Gymraeg yn y bum mlynedd nesaf. Roedd hi’n ddigon i hala fi i boeri fy mhaned dros y lle. Neil Hamilton? Yr un Neil Hamilton a chymrodd lemonau ei gywilydd yn San Steffan i neud lemonêd ar raglen realiti? Yr un Neil Hamilton sy’n disgrifio ei hun fel Cymro, ‘yr un mor Gymreig â Blackpool rock’ ? Fy ngreddf gyntaf oedd i ofyn a ydyn ni wir eisiau’r math yma o ddyn i frasgamu yn ei jac bŵts UKIP dros ein hannwyl babell ‘D’?
Ond wedyn, pam lai?
Yn amlwg, mae yn stynt ‘PR’ gan dîm Hamilton. Sai’n credu bod Hamilton na UKIP yn becso taten am Gymru, na’r iaith. Ar un adeg galwodd UKIP am ddirymiad y cynulliad. Dwywaith mae pamffledi UKIP wedi cael ei darparu gyda’r camsillafiad ‘Rhonnda’. Os bod Neil Hamilton yn rhugl yn y Gymraeg yn y bum mlynedd nesaf, fe fwytâf fy het. Ond mae’r stynt yn dangos un peth – mae gwleidyddion yn gweld pŵer yn yr iaith Gymraeg. Mae hi’n werth ei dysgu (neu, o leiaf mae gwerth mewn gweud eich bod chi mynd i’w dysgu hi). Ac os ein bod wir am i bawb ddefnyddio’r iaith, mae rhaid iddi adlewyrchu safbwyntiau amrywiol.
Bydde gwersi Cymraeg gyda Neil Hamilton yn werth i’w gweld. Dychmygwch yr olygfa:
Neil: Neil ydw i. Rydwi’n dod o Goed Duon yn wreiddiol.
Athrawes: Pam wyt ti’n dysgu Cymraeg, Neil?
Neil: Dwi eisiau twyllo’r pleidleiswyr i feddwl fy mod i’n becso am Gymru.
Athrawes: Da iawn Neil. Mae ‘pleidleiswyr’ yn air mawr.
Neil: Ti’n gweld? Mae’n gweithio!
Athrawes: Neil, beth am ofyn cwestiwn i dy bartner?
Neil: Beth wyt ti moyn i fi ofyn iddo fe?
Athrawes: Beth am: ‘a oes gen ti anifail anwes?’ Neu, ‘A oes gen ti unrhyw hobïau?’
Neil: Ac os dwi’n gofyn y cwestiynau hynny… faint wyt ti’n fodlon cynnig?
WLPAN amdani Neil! A phwy a wyr, mewn pum mlynedd… Neil Hamilton am Ddysgwr y Flwyddyn. Nawrte, dyna rhaglen realiti byddai’n gwylio!