Mae fy nheulu a’m ffrindiau wedi bod yn fy hambygio ers blynyddoedd i fynd am Ddysgwr y Flwyddyn ond ro’n i wastod ‘di teimlo’n ddihyder. Wedyn, dechreuais i sgwenu nofel am griw o ddysgwyr yn Sir Gâr sy’n ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth. Wel, byddai hi wedi bod yn stori ddiflas pe tase fy nghymeriadau yn mynd ar siwrne ddi-anhawster felly bûm i’n dychmygu’r holl bethau all fynd o’u lle – sut y gall cystadleuydd gwympo ar ei wyneb, cywilddio ei hunan, siomi ei deulu, cael pobl i chwerthin ar ei ben. Sut fyddai hi’n teimlo i sefyll lan o flaen pawb … a ffaelu? Ar ôl i fi roi fy nghymeriadau trwy’r fath uffern, ro’n i’n tybio nad oedd hi mond yn deg fy mod i’n rhoi fy hunan drwy’r un peth.
Ro’n i’n wrth fy modd pan es i drwodd i’r rownd derfynol ac i fod yn rhan fach o’r Eisteddfod Genadlaethol ei hun. Dyma’r tro cyntaf i fi dreulio wythnos gyfan yn steddfota a nes i joio bob munud. Roedd y naws ar y maes yn fendigedig; ro’n i’n bwmpo i mewn i ffrindiau a’m cydnabod rownd bob cornel nes ‘mod i’n teimlo fel taswn i wedi dod i ddathliad teulu anferth. Profiad prin ac arbennig oedd hi hefyd i glywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad fel y mwyafrif.
Ar fore’r gystadleuaeth, tra o’n i’n aros ar gyfer fy nghyfweliad, es i i gaffi lleol yn Y Fenni i glirio fy meddwl. Mas o’r maes, ro’n i’n teimlo fel tase’n i wedi glanio’n ôl yn Surrey. Doedd dim arwyddion dwyieithog a gwelais i faneri Jac yr Undeb yn chwifio uwchben nifer o siopiau. Fe geisiodd y fenyw o’m blaen i yng nhiw y caffi archebu ei diod yn y Gymraeg. O’r stumiau dirmygus ar wep y boi tu-ôl i’r cownter, fe fyddech chi’n meddwl ei bod wedi gofyn am baned o bi-pi! Doedd dim ‘Sorry I don’t speak Welsh’ – fe syllodd y boi’n anghwrtais at y fenyw nes bod hi’n troi at Seasneg. Wnaeth e ddim hyd yn oed aros i’r fenyw adael y caffi cyn troi at ei gyd-weithwraig gan sibrwd yn filain. Felly pan ddaeth fy nhro i, troais i at y dyn gyda gwên orfelys a gofyn “Allai gael latte os gwelwch yn dda?”
Digwyddiad bach oedd e, mae’n siŵr ond un sy’n tanlinellu i mi pa mor ffodus rydw i wedi bod i ddysgu Cymraeg yn Sir Gâr. Dw i’n sylweddoli fy mod i wedi ei chymryd hi’n ganiataol fy mod i’n gallu gweud ‘Sut mae’ wrth unrhywun yng Ngaerfyrddin heb gael yr ymateb welais i yn Y Fenni.
Roedd pump ohonom ni yn y rownd derfynol, pob un yn rhugl yn y Gymraeg, pob un yn awchus i annog pobl newydd i ddysgu’r iaith. Cawson ni ein croesholi gan y beiriniad a gan aelodau o’r cyhoedd hefyd a ffilmiwyd y cyfan gan S4C. O’r diwedd, cyhoeddwyd yr enilllydd mewn seremoni yng ngwesty yr Angel, Y Fenni. Wel nes i ddim cwympo ar fy ngwyneb ond wnes i ddim ennill chwaith. Yn y diwedd Hannah Roberts gipiodd teitl. Nid yn unig ei bod hi wedi dysgu Cymraeg mewn ardal yr un mor Seisnigaidd â’r Fenni ond mae hi hefyd yn gweithio dros Fenter Iaith Blaenau Gwent, gan ysbrydoli pobl newydd i ddysgu’r iaith. Chwarae teg iddi – mae’r fenyw yn joio her!
Tra bo y pedair ohonom yn y rownd derfynol yn siomedig i beidio ag ennill, ro’n i’n ffodus iawn i fod yn cystadlu yn yr unig gystadleuaeth lle does neb yn colli. Rydym ni i gyd yn cael dod adre â’r wobr orau o’r cyfan – yr iaith Gymraeg.