Pam rydw i yma?

Dwi’n dod o Surrey. Gwlad y welington gwyrdd a’r Chelsea Tractor. Lle ceidwadol dros ben (gyda ‘c’ mawr ac ‘c’ bach). Fe dyfais i lan yn credu bod ‘Prydeinwyr’ a ‘Saeson’ yr un peth. Ro’n i wedi clywed am Gymru ond ro’n i’n meddwl ei fod yn rhan o Loegr… fel Cernyw ond gyda mwy o ddefaid. Dyna sut felly, fe lwyddais i gyrraedd pump ar hugain mlwydd oed heb fod yn ymwybodol bod yr iaith Gymraeg yn bodoli. Mae’n gywilydd ond mae’n wir! Sut yn y byd te, ydw i yma, deng mlynedd wedyn, yn byw yng Nghymru, magu fy mhlant trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn sgwennu’r blog yma?

Fel y rhan fwyaf o bobl yn fy sefyllfa, yr ateb yw cariad. Fe gwrddais i â fy ngŵr ar ‘blind date’ yn 2004 tro roedd y ddau ohonom ni yn byw yn Llundain. Roedd ‘na rhywbeth egsotig a swynol am y ffaith roedd e’n siarad iaith dramor er doedd e ddim yn union o wlad tramor. Dysgais i ‘P’nawn Da’ ar y dêt cyntaf hwnnw a dyna le ddechreuodd fy siwrne at yr hen iaith.

Fi wedi bod yn byw yng Nghymru ers 2009 ac er bo fi wedi dod yn bell o’r Saesnes anwybyddus yr oedden i, dwi’n ymwybodol bod gen i lawer mwy i’w ddysgu am yr iaith a’r diwylliant arbennig a rhyfedd ‘ma. Gyda’r blog ‘ma, dwi’n gobeithio rhannu fy mhrofiadau i fel dysgwraig, a’r ffordd dwi’n gweld y byd Cymreig fel dieithryn. Gobeithio fe fyddech chi’n joio!

7 o sylwadau am “Pam rydw i yma?

  1. Gwelais i gyfeiriad at dy flog ar ‘twitter’. Dw i wedi mwynhau yn fawr iawn hyd yma. Dw i’n edrych i ddarllen rhagor.

    Hoffi

  2. Helo, shwmae? Clywais i amdanat ti sbel yn ôl a mae’n ddrwg ‘da fi nad ydw i wedi cysylltu â ti cyn nawr. Dw i wedi symud i Gymru a dysgu Cymraeg hefyd. Dw i’n byw yn Llandysul ac dw i wedi dechrau blogio yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, a weithiau yn Esperanto. Byddai fe’n braf rhannu ein profiadau.

    Hoffi

    1. Haia Dee

      Sori dim ond nawr dwi’n ymateb. Dwi wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn cwblhau prosiect sgwennu.

      Mae’n braf i glywed wrth gyd-ddysgwraig! A nes i joio dy flog am ffracsiynau yn y Gymraeg. Er hynny, mae’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg dwi’n eu hadnabod nhw’n troi at Saesneg ar gyfer mathemateg! Trueni nag yw e?

      Wyt ti wedi mentro mewn i’r canolfan Cymraeg newydd yng Nghaerfyrddin eto? Rho siowt i fi os ti yn yr ardal ac yn ffansio paned o de rhywbryd!

      Hoffi

      1. Haia Sarah

        Dw i wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar hefyd. Dw i’n gwirfoddoli gyda SaySomethinginWelsh ac dyn ni’n trefnu ‘eisteddfod ar lein’ ar gyfer ein dysgwyr ar hyn o bryd. Mae’n lot o hwyl i weld beth mae pobl yn gwneud.

        Dw i ddim yn dod i Gaerfyrddin yn aml iawn, ond dw i wedi dechrau dod i’r Ysgol Farddoni sy’n digwydd unwaith y pythefnos yn Nghlwb Rygbi Cwins. Maen nhw’n dysgu pobl sut i sgwennu cynghanedd. Dw i’n ofnadwy am wneud e, ond dw i’n hapus iawn mod i’n deall o leia.

        Siŵr o fod bydd rhaid i fi ddod i Gaerfyrddin i siopa cyn y Nadolig, felly gobeithio bydd modd i ni gwrdd.

        Hwyl am y tro,
        Dee

        Hoffwyd gan 1 person

Gadael sylw