Bro Myrddin

Mae Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin am droi’n Ysgol Benodedig Gyfrwng Gymraeg – newyddion gwych, nag yw e? Dyma’n gwmws y math o gynnydd sy’n dangos bod Cymraeg cystal ag unrhyw iaith arall yn y byd, nagefe? Wir i chi, ambell waith dwi’n meddwl fy mod i’n deall chi’r Cymry Cymraeg ac wedyn chi’n fy nrysu’n lân. Oherwydd, na, yn ôl llawer o Gymry Cymraeg, dyw ysgolion uniaith Gymraeg ddim yn beth da o gwbl. Mae llawer o Gymry Cymraeg eisiau eu plant i ddysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg. Rwyf wedi ceisio cael ‘mhen i rownd hyn a dw’i methu deall rhesymeg y ddadl. Pam dyw’r iaith Gymraeg ddim yn ddigon da ar gyfer dysgu’r pwnciau ‘ma? Ydyn nhw’n rhy bwysig i fentro? Beth wedyn am bynciau eraill fel Hanes a Daearyddiaeth? Ydyn nhw’n llai pwysig?

Beth yw’r pwynt brwydro am gydraddoldeb dros eich iaith os ry’ chi am danseilio eich holl ymdrechion gan gofnodi cafeat taw ambellwaith mae Cymraeg yn israddol? Mae gofyn am rhai pynciau i gael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn bradychu teimlad o israddoldeb dwfn yn yr enaid Gymreig.

Does dim eisiau cyflenwi Mr Belfield (Pennaeth Ysgol Rhuthun) a phobl o’r fath ag arfau. Os nad dych chi’r Cymry Cymraeg yn credu yn eich iaith, pa obaith sy’ ‘da chi i ddarbwyllo’r amheuwyr? Ambellwaith, chi’r Cymry Cymraeg yw eich gelyn pennaf eich hun!

Advertisements

Dwyieithog – dwy waith yn euog

Dw’i wastod cymysgu’r geiriau ‘euog’ a ‘diog’. Sai’n gwybod pam. Rwyf wedi ceisio cofio nhw wrth weud “Rydwi’n euog o fod yn ddiog” ond dwi’n dal i gymysgu’r ddau.

Mae lot o euogrwydd wrth fod yn rhiant – a phob nawr ac yn y man, dwi’n cwestiynu fy hunain wrth beidio siarad Saesneg gyda’m plant. Ydy hi’n annaturiol i beidio siarad fy mamiaith gyda nhw? Ydw i’n gwneud niwed iddyn nhw wrth siarad Cymraeg amherffaith? Efallai fy mod i’n eu hamddifadu nhw o Gymraeg a Saesneg da? Mae’r cwestiwn ‘ma yn codi gyda fi yn aml.  Yr wythnos ddiwethaf, ro’n ni wedi bod yn plannu hadau. Wythnos yma, mae glasbren wedi dechrau gwthio trwy’r pridd. Ro’n ni eisiau esbonio i fy nghroten fach bod y haden wedi… wedi… germinat-o! Mae hi’n ffrystredig pan chi ddim yn gwybod y gair chi eisiau defnyddio. Troiais i at ‘ap Geiriaduron’ ar fy iPhone ond erbyn i fi ddod o hyd i’r gair, ‘egino’, roedd y foment wedi pasio.

Fe fydd rhai (fy rhieni) yn gweud taw hynny yw’r rheswm dylen i fod yn siarad Saesneg i fy mhlant. Fe fyddai’n rhoi’r cyfle gorau iddynt i gael y ddwy iaith o safon uchel. A beth sy’n bod a thyfu lan mewn tŷ ddwyieithog? Wel dim. Ond y peth ydy hyn: mae’r plant yn mynd i dyfu lan yn ddwyieithog beth bynnag.

Os ydwi’n troi at Saesneg, yn sydyn, hynny fydd iaith y tŷ – iaith gartref. Wedyn, beth yw’r pwynt i ddysgu Cymraeg o gwbl? Fe fydd digon o gyfleoedd iddynt droi at Saesneg – ffilm, teledu, llyfrau – pan maen nhw wedi tyfu’n hŷn. Dim ond unwaith maent nhw’n cael y cyfle i greu eu mamiaith. Efallai fe fydden nhw ddewis gadael Cymru rhywbryd, efallai fe fydden nhw’n dewis Saesneg dros y Gymraeg. O leiaf byddai’n gwybod fy mod i wedi neud fy ngorau glas. Dyw’r ateb ddim i fi droi at Saesneg ond i wella fy Nghymraeg. Mae rhaid i fi ddarllen mwy yn y Gymraeg, gwylio mwy o S4C, gwrando ar fwy o Radio Cymru. Rydwi’n euog o fod yn ddiog.

Gwrthddywediadau

Mae rhai wedi awgrymu fy mod i wedi cael ‘tröedigaeth’ ers i fi symud i Gymru. Rwyf wedi ymdaflu at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant fel pe tase’n i’n ceisio bod yn fwy Cymreig na Chymraes. Dwi’n deall efallai ei bod hi’n edrych fel ‘ny ambellwaith. Dydw’i ddim yn cuddio fy nheimladau am y pethau Seisnigaidd sy’n fy mhrofocio – mae’n haws i’w gweld nhw ar yr ochor hon o’r bont Hafren. Ond mae’r gwir yn fwy cymhleth.

Mae’n rhaid i fi gyfaddef, dwi’n cael gwefr ddireidus o weld fy mam brenhingar yn sipian tê yn ddieuog o fwg gyda’r arwyddair “twll tin i’r cwîn”. Ond eto, roedd fy mam yng nghyfraith – cenedlaetholwraig falch – yn eithaf partïol i’r frenhines hefyd. Mae amryw fân addurn yn harddu ei chartref – yr un mor anghydryw â brechdan ham mewn synagog. Ry’ ni i gyd yn llawn gwrthddywediadau ontife?

Ac yn awr am gyfaddefiad fy hun: dwi’n eithaf hoffi’r teulu Brenhinol. Ffiw! Rwyf wedi ei weud e! Mae rhywbeth am blwc y dywysoges Ann a’i hwyneb sur yn osgoi ei herwgipiwyr, am Kate a Wills yn siopa yn Asda Llangefni, y ffaith bod Zara Phillips wedi dewis priodi Shrek! Wel wrth gwrs mae ‘na falwr cachu mawreddog ar gael a senoffobig hynafol hefyd ond mae cwpl o rein ym mhob un teulu nagoes e?

A nawr mae tywysoges newydd yn eu plith. Yay! Party popper for one please. Ni fydd fy nheulu na ffrindiau Cymreig yn becso taten. Dyw nhw ddim yn gweld bod teulu Brenhinol Lloegr yn deulu Brenhinol i Gymru. Dwi’n tybio ambellwaith, sut bydd cenedlaetholdeb Cymru’n wahanol pe tase’r blincin Saeson ddim wedi lladd Llewelyn. Efallai, yn y pendraw fe fyddech chi wedi dewis bod yn werinbennaeth tabeth ond bydde fe wedi bod yn neis cael y dewis. Mae digon ganddom ni’r Saeson i deimlo cywilydd am jingoaeth Lloegr.

Er hynny, Lloegr yw fy mamwlad. Felly, nagw, dydwi ddim wedi anghofio fy ‘ngwreiddiau. Dwi wedi syrthio mewn cariad gyda Chymru ond dwi’n Saesnes o hyd. Dyna rhywbeth dyw fy nghroten fach ddim yn angohofio chwaith.

“Dwi’n caru ti Mami…” meddai hi, “er bod ti’n Saesnes.”

A oes eisiau arwyddion dwyieithog?

Fel dieithryn, mae gen i olwg anarferol o gul o Gymru; dydw’i ddim yn nabod lot o bobl di-Gymraeg. Rwyf wedi priodi mewn i deulu Cymraeg, wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae fy mhlant yn mynychu meithrinfa ac ysgol Gymraeg ac mae’r rhan fwyaf o’m ffrindiau yn siarad neu ddysgu Cymraeg. Felly, mae’n fy syfrdanu i pan dwi’n clywed Cymro yn pleidio o safbwynt yn erbyn yr iaith Gymraeg. Roedd dadl ffrwd ar Facebook wythnos yma rhwng Cymro Cymraeg a Chymro di-gymraeg am ddefnydd arian cyhoeddus ar gyfer hybu’r iaith Gymraeg. Mae’n dangos pa mor effeithiol yw gwladychiad Cymru pan mae Cymro yn troi yn erbyn Cymro o blaid yr iaith oresgynnol. Sôn am syndrom Stockholm! Yn amlwg, mae hunaniaeth Gymreig yn llawer mwy cymhleth ac amrywiol na beth rwyf wedi sylweddoli.

Dadl y Cymro di-Gymraeg oedd ei bod hi’n amhosib ailfywiogi iaith trwy ddeddfwriaeth. Efallai bod hynny yn wir, ond yn dyw e’n well na neud dim byd? Un o’m hoff lyfrau yw To Kill a Mockingbird. Fy hoff ddyfyniad ydy hyn:

“Simply because we were licked a hundred years before we started is no reason for us not to try to win.”

Yn ystod yr un wythnos, mae Iola Wyn wedi bod wrthi’n gwneud stŵr am ddiffyg arwyddion a gwefan dwyieithog Gerddi Botaneg Genedlaethol Cymru. Mae gen i lawer o barch o’i hymdrech a’i hegni yn wyneb y fath sarhad tuag at Gymry Cymraeg. Mae darpariaethau dwyieithog yn rhywbeth sy’n gynhwysol, sy’n dangos parch i’r ddwy ochor o’r gymuned Gymreig. Mae tynnu un iaith i ffwrdd fel gwadu bodolaeth ei siaradwyr. Efallai fe fydd hi’n cymeryd rhywbeth eithafol er mwyn cael y gwrth-Gymraeg i ddeall hynny. Mae gan fy chwaer yng nghyfraith ateb berffaith i rai sy’n gweud:

“A oes wir eisiau arwyddion yn y ddwy iaith?”

“Na, siŵr o fod ddim…” meddai hi, “…wneith dim ond Cymraeg i’r dim.”

Mae rhai teuluoedd yn chwarae Scrabble…

Fe aethom ni i Surrey ar gyfer gwyliau’r Pasg. Roedd hi’n anffodus bod Dadl yr Arweinwyr yn digwydd yr un penwythnos. Roedd hi’n anodd osgoi’r pwnc ond fel mae’r dywediad yn rhybuddio: “Peidiwch â thrafod gwleidyddiaeth na chrefydd gyda’ch teulu.” Yn enwedig pan ry’ chi yn Surrey. Fe dreuliom ni ddydd y Pasg gyda fy nheulu estynedig – yr un mor Surrey-aidd, yr un mor Dorïaidd, yr un mor brofoclyd â’r Siwper-Saeson. Ar ôl i ni orffen pryd o fwyd bendigedig, roedd hi’n amser chwarae gêm. Ambell waith rydym ni’n chwarae Trivial Pursuit… ond erbyn bod y nifer o’r poteli gwag yn fwy na rhif y bobl sy’n eistedd wrth ymyl y ford, ni’n chwarae hoff gêm fy nheulu, sef ‘baetio’r arth’. Fi yw’r arth. Mae’r Siwper-Saeson yn heidio at ei gilydd a gofyn,

“Gewn ni weld pa mor annymunol o’r asgell dde, pa mor anwybodus a sarhaus allwn ni fod cyn i’r arth anelu ergyd at rywun!”

Mae’n hilarious… iddyn nhw. Dyma sut aeth ein sgwrs am Ddadl yr Arweinwyr:

“Pam roedd Plaid Saimroo a’r SNP ‘na?”

“Oherwydd mae pobl yng Nghymru ac yn yr Alban yn gwylio’r teledu hefyd.”

“Ond dy’n ni ddim yn gallu pleidleisio drostynt.”

“Wel, mae pobl yn yr Alban a Chymru yn gallu pleidleisio drostynt.”

“Felly beth yw Plaid Saimroo – yfe Llafur Cymru?”

“Nage, Llafur Cymru yw Llafur Cymru.”

“Felly ydy e’n Llafur neu Geidwadwr?”

“Nid Llafur na Cheidwadwr yw Plaid Cymru – mae’n barti gwahanol.”

“Wel eniwe, roedd y fenyw ‘na* yn swnio fel Postman Pat.”

*Leanne Wood

Roedd hi fel ceisio cael sgwrs wleidyddol gyda mwnci.

“Pam dylsa’r Alban gael hawl i bleidleisio dros bethau yn Lloegr?”

“Oherwydd maen nhw’n rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae penderfyniadau Whitehall yn effeithio’r Alban hefyd.”

“Ond mae llywodraeth ei hunain gyda nhw.”

“Maen nhw wedi datganoli, nid cael annibyniaeth.”

“Na, na, maen nhw’n cael popeth ar wahân.”

“Nid popeth – dim ond rhai pethau…”

“Na, mae popeth ar wahân.”

 Yn amlwg, dyw ffeithiau ddim yn ddigon perswadiol pan chi’n siarad gyda rhywun sy’ ddim eisiau eu clywed nhw. Fel y tro wedodd un ohonynt, “Mae’r iaith Gymraeg wedi marw – does neb yn ei siarad hi.” Doedd dim ots am y ffaith roedd tystiolaeth i’r gwrthwyneb reit o flaen ei lygaid.

Roedd perl arall gydag e tro ‘ma:

“Sai’n gweld beth yw’r drafferth gyda’r N-word. Mae’n political correctness gone mad. Mae’r bobl dduon yn defnyddio’r gair rhwng ei gilydd!”

Mentrais i esbonio bod pobl ddu yn ceisio meddiannu’r gair er mwyn difetha ei bŵer hanesyddol. Felly, mae ‘na wahaniaeth mawr rhwng person du yn defnyddio’r gair a pherson gwyn yn ei defnyddio hi.

Roedd e’n edrych aranai’n hurt cyn gweud “Na.”

Does dim rhesymu â rhai. Dwi jyst yn gobeithio eith e lawr i Brixton rhywbryd a rhoi cynnig ar ei dybiaeth.

Ar ôl sbel, ro’n i wedi cael llond bol. Rhoiais i bryd o dafod i rywun. Ges i fy nwrdio yn syth am fod yn groendenau.

“Cymra’r jôc!”

“Paid â chodi at yr abwyd!”

Diawl, mae’n ddiflas.

Ar y ffordd nôl yn y car, ro’n i’n tybio, efe hyn yw sut mae hi i fod yn Gymro? Cael eich bwlio gan Loegr drwy’r amser? Gorfod gwrando ar yr holl nonsens anwybodus? I gael eich llais wedi boddi?

Dw’i erioed wedi bod mor hapus i groesi’r bont a chyrraedd adre i Gymru. Tra ro’n ni bant, roedd rhai o fy nheulu Cymreig wedi bod lan yng Nghaerdydd gyda’r criw ‘Yes Cymru’. Ro’n i’n siomedig wnaethom ni golli mas ar y cyfle i ymuno. Dydw’i ddim yn gallu dewis fy nheulu ond ry’ chi’r Cymry yn gallu dewis annibyniaeth – c’mon Cymru! Ewch amdani!

Mawr eu bri… yng Nghymru

Fi wedi gweithio yn y byd teledu ers rhyw ddeng mlynedd ac wedi cwrdd â llond llaw o enwogion dros y blynyddoedd. Un o’m profiadau mwyaf od oedd ysgeintio Michael Barrymore gyda thalc er mwyn ei stwffio fe mewn i dynwisg sgleiniog… wel wedes i ddim taw A-list o’n nhw!

Dydw i ddim yn synnu a’r ‘fracas’ ynglyn â Jeremy Clarkson yr wythnos ddiwethaf. Er dydw’i byth wedi gweld seren yn taflu dyrnod, rwyf wedi gweld digon ohonynt yn taflu eu pwysau o gwmpas. Mae enwogion yn Lloegr yn cael eu trin fel rhyw fath o rywogaeth arbennig. Rydym ni’n eu maldodi nhw. Wnaeth un cyflwynydd teledu ofyn i fi dynnu croen banana iddi! (Fe wnês i hefyd!)

Mae gan y Cymry Cymraeg agwedd wahanol tuag at enwogion dwi’n meddwl. Efallai mae’n gysylltiedig gyda’r ffaith bod Cymru mor fach, rydych chi siwr o fod yn nabod rhai o’r enwogion sy’ ar y teledu. Does dim dirgelwch mawr amdanynt felly. Yn ogystal â hyn, mae llawer o bobl ‘normal’ yn mynd ar y teledu hefyd. Os ry’ chi’n siarad Cymraeg a bod rhywbeth ychydig yn ddiddorol wedi digwydd i chi erioed, fe gewch chi gyfle i sôn amdano fe ar y teledu neu’r radio! Hyd yn oed, fi! Ro’n i ar Prynawn Da cwpl o fisoedd yn ôl. Ar ôl i fy mam ffonio ei ffrindiau a’r teulu i gyd, roedd hanner de Lloegr wedi tiwnio mewn i weld fi ‘yn siarad gobldigwc!’ fel wedodd ‘nhad. Mae’n dal yn beth cyffrous i fod ar y teledu yn Lloegr, lle yng Nghymru, mae’n eithaf cyffredin.

Pan ddechreuais i weithio yn y byd teledu yng Nghymru, ambell waith fe gwrddais i â rhywun heb sylweddoli ei bod nhw’n eithaf enwog – yng Nghymru. Trïais i fy Nghymraeg gorau gyda rhyw foi newydd yn y swyddfa.

“Helo! Sarah ydw i!”

“Helo! Cleif ydw i!” meddai fe yn garedig.

Dim ond wedyn sylwais i taw Cleif Harpwood oedd e, o’r chwedlonol Edward H.

Wps.

Y gwir yw, does dim ots pa mor enwog y’ch chi yng Nghymru – Meic Stevens, Caryl Parry Jones, Angharad Mair, Iolo Williams, Shân Cothi – os na dych chi’n gweithio drwy gyfrwng y Saesneg, chi’n hollol anweledig yn Lloegr. A oes ots? Wel nagoes sbo… ond mae agwedd snobyddlyd tuag at deledu rhanbarthol yn fy ngwylltio.

Yn fy mhrofiad i, mae cyllideb tynn ac adnoddau cyfyngedig ar raglenni rhanbarthol yn gofyn am lawer mwy o ddyfeisgarwch a dychymig. Does dim lle am ‘prima donnas’ chwaith. Mae pawb ar y tîm yn gorfod torchi eu llewys. Efallai dyna pam dyw enwogion Cymreig ddim yn fawreddog. Does dim Jeremy Clarkson ar gael ar S4C (diolch byth) a pe tase unrhywun yn creu y fath ‘fracas’ dwi’n siwr fe gewn nhw y sac yn syth.

Roedd fy swydd gyntaf yng Nghymru ar y rhaglen ‘Bro’ gyda Shân Cothi a Iolo Williams. Ro’n nhw’r un faint o hwyl o flaen y camera a beth o’n nhw ar ôl ddiffodd y camera. Dysgais i lawer am Gymru ar y rhaglen honno… yn cynnwys (wrth Iolo) sut i regu yn y Gymraeg!

Caru’r Casawyr

Mae fy nhad yn ddyn hoffus, hael ac yn hwyl ond diawl ma’ fe’n joio cwyno. Mae gwylio teledu gyda fe yn dipyn o brofiad. Mae e’n cwyno am bobl hyll, tew, menywod sy’ ddim yn ddigon ‘benywaidd’, a dyw e ddim yn hoffi acennau rhanbarthol. Heblaw am Carol Kirkwood sy’n neud y tywydd. Mae hi fel Viagra i ddynion dros chwedeg-pump. Pan mae ‘Vox pops’ ar y newyddion, ac mae Joe Blogs – neu, Joe Muhammad – yn rhoi ei farn am bris pysgod, hoff ebychiad fy ‘nhad yw:

“Look at this idiot. He can barely string a sentence together.”

Does dim ots beth yw eu hiaith, mae wastod rhai sy’n snobyddlyd am y ffordd mae rhai eraill yn defnyddio’u hiaith. Mae’n rhaid i fi gyfaddef, fi’n mwynhau cywiro Saensneg slac pobl eraill; fi’n euog o ddileu collnod anghywir o fwrdd du siop goffi. Fi hefyd wedi cael fy nghywilyddio ym Mharis wrth siarad fy Ffrangeg gorau ond i’r gweinydd ymateb yn Saesneg.

Felly, mae sylwebaeth Alun Cairns, bod rhaid i’r Cymry Cymraeg fod yn “tolerant and supportive” tuag at ddysgwyr, ychydig bach fel gweud “dylse pawb fod yn garedig ac yn hoffus drwy’r amser.” Dyw’r Cymry Cymraeg ddim yn rhywogaeth wahanol. Fe fydd rhai ohonynt yn gefnogol a rhai eraill yn ffroenuchel tuag at ddysgwyr – yr un peth fel y Saeson, y Ffrancwyr neu unrhyw bobl arall.

Mae’n rhaid i fi weud, fi wedi cael profiad hynod o galonogol wrth ddysgu’r iaith Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o bobl fi wedi cwrdd wedi bod yn gefnogol dros ben. Dim ond unwaith ges i fy mychanu gan Gymro Cymraeg. Ond yffarn, roedd hi’n dipyn o glats. Cywilydd cyhoeddus go iawn.

Roedd hi’n rali dros yr Iaith Gymraeg 2013 yng Nghaerfyrddin a ro’n i newydd gynhyrchu cyfres deledu o’r enw Fi Neu’r Ci. Roedd hi’n rhaglen adloniant ysgafn pur – y math o raglen efallai fe fyddech chi’n gweld ar ITV neu C5. Y math o raglen fydde’n ‘nhad i’n casáu. Ond dim ots – ro’n ni ddim yn ceisio denu pobl dros 65 – mae’n nhw’n gwylio S4C ta’beth. Ro’n ni eisiau denu pobl ifanc, i gynnig yr un math o hwyl sydd ar gael ar y sianeli Saesneg. Doedd rhai o gyfranwyr y rhaglen ddim yn siarad Cymraeg yn fendigedig – roedd sawl un yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Yn y bôn, nid nhw oedd y bobl ry’ ni arfer gweld ar S4C. Ond ro’n nhw eisiau bod yn rhan o’r rhaglen – hynny yw, i gyfrannu at y gymuned a’r diwylliant Cymreig.

Nôl at y rali. Roedd cawr o’r gymuned Gymreig lleol ar y llwyfan yn pregethu ei farn. Ond yn lle tynnu’r dorf at ei gilydd, penderfynodd ddiystyru fy rhaglen fach i. Cwynodd y person mewn sylw am safon iaith fy nghyfranwyr:

“Nid hwnnw yw’r iaith ni eisiau achub!” ebychodd.

Ro’n i ar fin rhedeg i ffwrdd yn fy nagrau pan welais i fy chwaer yng nghyfraith. Roedd hi’n mynnu fy mod i’n parhau ar y daith. Fe wnes i – yn llythrennol ac yn ffiguraidd. Mae croeso i’r Cawr ei farn – yn gwmws fel fy ‘nhad. Mae croeso i’r ddau ohonynt floeddio at y teledu nes eu bod nhw’n grug. Ond dy’ nhw ddim yn gallu stopio fi a phobl fel fi, i ddefnyddio eu hiaith. Mae goddefgarwch yn heol ddwyffordd. Os bod rhaid i’r Cymry Cymraeg oddef Cymraeg ceffyl ni’r dysgwyr, wel mae’n rhaid i ni’r dysgwyr oddef agwedd y Cymry Cymraeg prin sy’n snobyddlyd. Mae’n iach i gywiro iaith pobl ambellwaith ond does dim byth esgus i’w bychanu.

Wnes i ddim ymateb i’r Cawr ar y pryd. Fe ddylen i fod wedi. Dyma beth fydde’n i wedi gweud:

Mae’n flin ‘da fi glywed eich bod chi wedi casáu fy nghyfres, ‘Fi Neu’r Ci’. Rwy’n deall nad yw’r rhaglen at ddant pawb. Er mae hawl ‘da chi eich barn am y rhaglen, does gennych chi ddim hawl i fychanu’r bobl sy’n cymeryd rhan ynddi. Yr unig beth wnaethon nhw wneud oedd defnyddio eu hiaith eu hunain, y Gymraeg – achos mae’r iaith yn eiddo iddyn nhw fel mae’n eiddo i chi. Rydych chi’n ffodus iawn i gael yr iaith Gymraeg o’r crud a bod chi’n gallu siarad Cymraeg o’r safon uchaf. Dyw’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg ddim yn gallu cynganeddu, neu efallai treiglo’n iawn bob tro, ond maen nhw’n dewis siarad Cymraeg serch hynny, felly peidiwch troi eich cefn arnyn nhw a pheidiwch â’u bychanu. Efallai mai Cymraeg yw iaith y nefoedd ond dim ond ni feidrolion sy’n ei siarad – cofiwch hynny.