Hunan arall

Dydw i ddim fy hunain pan dwi’n siarad Cymraeg. Dyw’r un crap ddim gyda fi yn yr iaith Gymraeg â sydd gyda fi yn Saesneg. Dydw i ddim yn nabod digon o eiriau i allu eu jyglo nhw, felly, dwi’n fersiwn symlach o’m hunain. Dwi’n gorfod gweithio’n galetach yn y Gymraeg ac efallai dwi’n gallu swnio’n eithaf ddifrif ambellwaith, lle dwi’n fwy chwareus yn Saesneg. Mae fel petai bod gen i bersonaliaeth ddeublyg!

Dwi’n siwr bod lot fawr o bobl sy’ wedi bod yn ddwyieithog o’r crud yn teimlo’r un mor gyffyrddus yn y ddwy iaith. Ond fi wedi cwrdd â nifer o Gymry Cymraeg sy’n siarad Saesneg fel ail iaith. Mae nhw’n gwynebu’r un trafferthion wrth siarad Saesneg sy’ da fi pan dwi’n siarad Cymraeg. Felly, pan bod Saeson yn gofyn “beth yw’r pwynt mewn siarad Cymraeg pan mae pawb yng Nghymru yn gallu siarad Saesneg?” mae nhw’n methu’r pwynt yn gyfan gwbl.

Ers i fi ddechrau dysgu ail iaith, dwi’n credu fy mod i’n deall y gwhaniaeth rhwng gallu siarad iaith a theimlo’n gyffyrddus ynddi. Mae’r rhan fwyaf o Iseldirwyr, Almaenwyr, a Swediaid yn gallu siarad Saesneg hefyd ond bydd neb yn disgwl iddynt siarad Saesneg gartref neu gyda’u ffrindiau. Fe fydd e’n hollol annaturiol iddynt. Mae’ch iaith yn fwy na dull hunanfynegiant; mae’n rhan o’ch hunaniaeth mewn ffordd chi methu deall nes bod chi’n dysgu ail iaith.

Fe gwrddais i â un ddysgwraig gyda swydd bwysig a chwynodd doedd hi ddim yn ffeindio gwersi Cymraeg yn “intellectually stimulating”. Amheuaf taw’r gwir yw, roedd hi’n ffeindio’r profiad o fod yn ddi-glem am rywbeth, yn hollol ddiraddiol. Mae dysgu iaith yn wastatäwr. Mae’n rhaid i chi roi’r gorau i’ch hunanfynegiant a’r ffordd chi’n cyflwyno’ch hunain i’r byd. Gweud ta ta i’ch ego. Gallwch fod yn lawfeddyg ymennydd, ond wrth ddechrau dysgu iaith newydd, chi’n crafu’ch pen yn gyfochr â glanhawr yr ysbyty. Mae’n rhaid bod yn fodlon swnio’n dwp, i neud camgymeriadau, i dreulio’r flwyddyn gyntaf yn trafod pynciau mor ddoethlyd a ‘hobïau ac anifeiliaid anwes’. Ar ôl sbel, efallai eich bod chi’n deall digon i ddilyn sgwrs ond mae ymuno â sgwrs yn gam anferth. Dyw geiriau ddim yn dod i’ch meddwl yn ddigon clou ac erbyn i chi ddod o hyd i’r gair chi eisiau, mae’r sgwrs wedi symud ymlaen. Mae’n ffrystredig! Dwi’n deall pam bod cymaint o ddysgwyr yn ymwrthod.

Er hynny, dwi’n ystyfnig a dwi’n dal ati. Efallai un diwrnod fe fyddai’r un mor gyffyrddus yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn y cyfamser, mae’r ffaith fy mod i’n gorfod dewis fy ngeiriau yn ofalus yn gallu bod yn beth da. Yn ôl rhai pobl (fy ngŵr) dwi’n tueddu i barablu’n Saesneg – malu awyr hyd yn oed! Efallai bydde fe’n well i Gymru pe tase’n i ddim yn gwella fy nghymraeg – fe fyddech chi byth yn gallu rhoi taw arnai!

Advertisements

Hiliaeth Anystyriol

Mae’n debyg roedd rhyw gêm rygbi ar y teledu bythefnos yn ôl. Dydyn ni ddim yn dilyn rygbi yn ein tŷ ni ond roedd hi’n anodd ysgoi ymateb yr holl gefnogwyr o’r ddwy ochr ar Facebook. Roedd nifer o bobl yn gweud pethau sbortsmonaidd ond roedd un boi – Sais, yn anffodus – wedi gadael ein hochr ni lawr. Fe gyhoeddodd e ar Facebook:

“The welsh rugby team look exactly like every welsh person I know, just in varying scales.” (sic)

Dylen i fod wedi ymateb:

“Fi’n gwybod, mae dau lygaid, trwyn a cheg gyda phob un ohonynt!”

Ond wnês i ddim. Cachgu ydw i.

Siwr o fod fe fydd e’n gweud fy mod i’n groendenau ac yn Saesnes felly beth yw’r ots? Mae’r dyn a ysgrifenodd y ‘ffraethineb’ hon yn ifanc, addysgedig – dosbarth canol. Y math o ddyn sy’n darllen The Guardian. Pe tase rhywun wedi sgwennu, “Mae’r tîm Tseieniaidd yn edrych fel pob person Tseiniaidd fi’n nabod,” siwr o fod, fe fydd y fath iaith yn ei ddigio fe. Felly pam dyw e ddim yn gallu gweld pa mor hiliol yw ei agwedd e yn erbyn y Cymry?

Roedd yr un fath o ddallineb tuag at hiliaeth yn amlwg pan wedodd un cynghorydd o’r Blaid Lafur bod enw Rhun ap Iorwerth yn “rhy Gymreig.” A fydd yr un person yn fodlon disgrifio enw Sajid Javid o’r Blaid Geidwadol yn “rhy Bakistani?” Mae hiliaeth anystyriol mor gyffredin yn Lloegr, dyw’r Saeson ddim hyd yn oed yn ei gydnabod.

Cyn i fi symud i Gymru, wnês i ddim yn deall pam oedd ‘tsip’ ar ysgwydd fy ngŵr am ‘jôciau’ yn erbyn Cymru. Erbyn hyn dwi’n gallu gweld pa mor gyffredin yw’r holl beth a pha mor syrffedus. Ro’n i’n trafod hyn gyda ffrind fy nheulu (Sais). Edrychodd e arnai’n ddirmygus cyn gweud fy mod i wedi cael fy mhwylltreisio! Mae’n debyg, dwi methu bod yn Saesnes go iawn heb fod yn watwarus am Gymru.

Pan gyrhaeddodd ein mab, ddwedom ni wrth fy rhieni taw Atticus oedd ei enw – ‘Atti’ fel llysenw, ond daeth ‘nhad lan gyda llysenw ei hun; ‘Taffy’.  Wnês i geisio tynnu sylw at y ffaith bod ‘Taffy’ yn derm hiliol a pe tasen i wedi priodi â dyn du, a fydde fe wedi meddwl bod ‘darky’ yn lysenw addas ar gyfer ei ŵyr?

“Paid bod yn ffôl!” wedodd ‘nhad, “Dyw e ddim yn sarhaus – mae’n air anwes!”

“Hmm…” wedais i, “Yn gwmws fel ‘chinky’ neu ‘darky’ neu ‘Paki’ yfe?”

Allwch chi ddychmygu unrhywun yn defnyddio geiriau fel na mewn tôn cariadus?

“Chinky! Darky! Paki! Dewch mewn am swper! Mae’ch bwyd ar y bwrdd!”

Sai’n credu.

Iaith yr angylion… a chythreiliaid

Dwi’n caru geiriau. Dwi’ fel pioden – pan dwi’n dod o hyd i air newydd dwi’n ceisio’i ddefnyddio’n syth. Mae fel petai bod sgidiau newydd ‘da fi – dwi eisiau trio nhw mas a gweld os dwi’n gallu cerdded ynddynt heb faglu. Dwi wrth fy modd a geiriau prydferth ac rhyfeddol fel ‘synfyrfyrio’, ‘lapswchan’, ‘pendilio’, a ‘ling di long’. Ond – yn fy marn ostyngedig i – mae un diffyg gyda’r iaith Cymraeg: rhegu. Fi’n gwybod dyw e ddim yn fawr, dyw e ddim yn glyfar ond dwi wrth fy modd yn rhegu. Ac os bo chi angen – rili ANGEN – gair pedair llythyren i ddweud eich meddwl, mae rhaid i chi droi at Sacsoneg. Ond yw e’n od taw’r geiriau cryfaf yw rhai sy’ wedi newid y lleiaf dros y canrifau. Roedd hyd yn oed Shakespeare wedi mwyseirio “country matters.” (Mawr. Clyfar.)

Felly ble mae’r holl regfeydd yn y Gymraeg? A oes diffyg achos bod y Cymry yn bobl parchus, crefyddol ac addfwyn? Neu ydy rhegfeydd rhywbeth arall mae Saesneg wedi ei sathru?

Fe weithiais i yn y byd teledu yn Llundain am rhai blynyddoedd. Roedd hyd yn oed y BBC yn ferw gan rhegfeydd. Mae’n rhan o’r diwylliant teledu – yn ogystal â gwisgo sbectol haul anferth o dan dô a thyfu barf anferthol. ‘Hipster chic’ yndyfe?

Ar ôl i fi ddechrau gweithio yn y byd teledu yng Nghymru chlywais i’r un F**K am fisoedd. Roedd hyd-yn-oed ‘bloody’ yn cael ei droi i ‘Blincin’. Felly y tro cyntaf glywais i fy mos yn ebychu “Mynyffarch!” ro’n i’n siwr roedd rhywbeth mawr o’i le. Roedd rhywun mewn trwbwl – efallai fi oedd y ‘motherclucker’ dan sylw! Ro’n i braidd yn siomedig i ddarganfod roedd e mond yn gweud ‘hellfire’ achos roedd wedi gollwng ei goffi.

Er hynny, dwi’n defnyddio ‘mynyffarch’ fy hun erbyn hyn. Ond nid yn y Capel. Mae’n debyg dyw e ddim yn addas. Dyw e ddim yn addas chwaith i weud wrth eich tad yng nghyfraith (sy‘ yn ei wyth degau) bod rhywun ar y teledu yn ‘malu cachu’. A dweud y gwir, mae e wedi cael ei arfer i’m Cymraeg ceffyl. Un gaeaf rhybyddiais i iddo fe fod yn ofalus wrth adael y tŷ achos roedd “lot o rhyw ar y heol.”

Mae’n well i fi jyst osgoi rhai geiriau. Dwi’n fam nawr a does neb eisiau clywed ei Mam yn siarad yn fochedd, hyd yn oed os nad yw hi’n deall yn iawn ystyr ei geriau. Sawl gwaith i fi wedi ceisio stopio fy mam rhag galw ei chwpwrdd-dan-star, yn ‘glory hole’. Does dim ots faint o weithiau dwi’n esbonio, Na Mam, dyw ‘glory hole’ ddim yn meddwl ‘rhywle ti’n stwffio pethau er mwyn tacluso nhw’n glou…’

Lwc owt! Mae’r Siwpyr-Saeson yn dod…

Mae’r Siwpyr-Saeson yn dod i aros gyda ni y penwythnos yma – hynny yw, fy rhieni. Hoffus, llawn bwriadau da, ond mor… wel, Seisnigaidd. Mae fy nheulu yn edrych at yr holl fusnes o siarad Cymraeg ‘ma fel tasen i wedi dechrau rhyw hobi od… fel tacsidermi.

Ww, edrych beth ti’n gallu neud gyda’r gath farw ‘na. Clyfar iawn. Ond wyt ti wedi ystyried rhoi cynnig i tennis?

Mae fy mrawd yn edmygu – yn amharod – y ffaith bod fy mhlant yn ddwyieithog ond yn gofyn yn aml,

“So ti’n meddwl bydd Tsieineaidd yn fwy defnyddiol iddynt?”

“Wel dim rili,” dwi’n ymateb, “Prin iawn yw siaradwyr Tsieineaidd yng Nghaerfyrddin.”

Bellach, mae fy Mam yn dechrau gweld hynny. Daeth hi adre o’r dre un diwrnod yn gweud:

“Wel! Clywais i bobl yn siarad Cymraeg ym mhobman! Roedd hi’n fel gwlad dramor!”

Does dim byd gyda fy rhieni yn erbyn Cymru. Y gwir yw dy’ nhw ddim yn gwybod un rhywbeth amdani. Ers i fi adael Lloegr, dwi’n dechrau gweld pa mor hunanganolog rydym ni y Saeson. Astudiais i Hanes hyd at lefel A. Dysgais i am y ddau ryfel y byd, comiwnyddiaeth yn Rwsia, polisi tramor yr Almaen, yr holl waedoliaeth teulu Brenhinol Lloegr. Ond dim sôn am dywysogion Cymreig, dim smic am Owain Glyndŵr. Dim byd am ryfel annibyniaeth Iwerddon chwaith. Ond yw e’n od, bod y gwledydd ‘ma mor agos at Loegr, ond mae Lloegr yn gwybod braidd dim amdanynt?

Dyma berl arall gan fy Mam:

“Fi wir ddim yn deall beth yw’r holl halibalŵ am yr arwisgiad. Dyw e ddim fel petai wnaethom ni y Saeson ladd brenin Cymru a rhoi Charles yn ei le!”

Nag yw e Mam? Nag yw e wir?!

Cywirwch fi os dwi’n anghywir…

Ges i sgwrs gyda Dei Tomos ar Radio Cymru yr wythnos yma am ennill gwobr ysgrifennu, dysgu Cymraeg a dechrau swgwenu yn y Gymraeg. Wrth wrando nôl ar y rhaglen, ro’n i eisiau gweiddi at fy hunain, Y WLAD! Stopia gweud Y GWLAD! Rwy’n siŵr bod pobl led led Cymru yn gweiddi’r un peth at y radio!

Chwarae teg i Dei, roedd yn garedig iawn i fi a doedd e ddim eisiau torri ar fy nhraws er mwyn fy nghywiro. Tybiais i ar ôl hynny, pan dwi’n siarad gyda fy ffrindiau, neu gydweithwyr, pa mor aml mae hynny yn digwydd ac os bod fy nghamgymeriadau yn brifo eu clustiau?

Er ro’n ni’n siarad ieithoedd gwahanol wrth dyfu lan, ges i a’m gŵr ein magu mewn teuluoedd lle’r oedd safon iaith y plant yn bwysig. Roeddwn ni’n cael ein cywiro bob amser nes bod rheolau’r iaith yn dod yn naturiol. Rydym ni yn neud yr un peth gyda’n plant ni. Dwi’n ceisio caeli fy nheulu Cymreig neud yr un peth gyda fi.

Mae eisiau cywiro dysgwyr neu byddwn ni’n parhau i neud yr un camgymeriadau eto ac eto. Ond prin iawn o bobl sy’n fodlon gwneud hynny. A dwi’n deall yn iawn pam – mae ‘na ffin fain rhwng cefnogi’r broses o ddysgu a llethu hyder yn siarad.

Mae dysgu iaith yn debyg i ddysgu cerddoriaeth – er mwyn cael rhyw fath o ddeheurwydd, mae’n rhaid ymarfer y graddfeydd – hynny yw, ailadrodd. Os chi’n cael eich cywiro’n ddigon aml, chi’n dechrau clywed y cywiriad yn eich pen wrth i chi siarad. Wedyn, chi’n dechrau teimlo llanw a thrai’r gystrawen a dechrau adnabod y nodiadau sy’n swnio’n ddymunol gyda’u gilydd.

I fi, os dwi’n neud yr un camgymeriad eto ac eto, mae fel petai dwi’n cerdded o gwmpas gyda’m sgert yn sownd yn fy nicers. Mae’n lot gwell ‘da fi tase rhywun yn gweud wrtha i!

Eog Cymreig

Ar ôl i ni briodi fe ddaeth yn amlwg bod fy ngŵr i’n eog. Roedd e’n hapus yn nofio’n chwim trwy foroedd tramor nes amser bridio. Wedyn, tarodd rhyw awydd cynoesol. Roedd rhaid iddo fe ddychwelyd i’r wlad o’i enedigaeth. Wrth lwc iddo fe, dydw i ddim yn eog. Does gen i’r un brogarwch, felly ro’n i’n ddigon bodlon i’w ddilyn i Gymru. Ond fi yw’r un od – dwi’n deall hwnnw yn iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau ail-greu yr elfennau gorau o’u plentyndod ar gyfer eu plant. Ges i blentyndod hyfryd – dwi ddim yn ceisio dianc o’m gwreiddiau ond dwi’n teimlo bod gan Gymru lot mwy i’w gynnig i’m plant i na Surrey. Mae’r diwylliant unigryw Cymreig yn hybu cystadleuaeth, ysbryd cymdeithasol a chyfle i strytio’n ddigydwybod o flaen cynulleidfa.

Dwi’n sôn wrth gwrs am yr Urdd. Pe tasen i wedi cael fy magu yng Nghymru fe fyddai wedi bod ar y llwyfan yn prancio ac yn glaswenu yn gynt na chi’n gallu gweud ‘plentyn gwrthun’. A does dim ots ble mae’ch dawn – celf, canu, dawnsio, ysgrifennu – mae ‘na gyfle i chi ddangos off. Dylse pob un plentyn cael cyfle i roi cynnig ar rhywbeth felly.

Er hynny, fi dal methu cael ‘mhen i rownd yr holl busnes Eisteddfod. Ambellwaith dwi’n meddwl, oce, dwi’n deall. Mae’n fel Glastonbury… ond gyda chlocsiau. A derwyddion. A llafarganu od. A wedyn, mae na’r seremoni; criw o hen ddynion yn gwisgo fyny fel y Cw Clyx Clan, yn chwifio cleddyf o gwmpas. I rhywun sy’ heb dyfu lan gyda’r traddodiad, mae hynny yn od. Od iawn. Paid a sôn am gyd-adrodd. Y tro cyntaf glywais i hwnna, naeth e godi’r arswyd arnai – mae’n gallu swnio’n spooky iawn! Er hynny mae’r holl peth yn aruthrol – hudol hyd yn oed – ac mae’n ddathliad arbennig o hunaniaeth. Beth tebyg sy’ gyda ni yn Lloegr? Dim byd! Mae cenedlaetholdeb yn Lloegr yn canolbwyntio llai ar beth sy’n dda am Loegr a mwy ar beth sy’n wael am yr holl ‘dramorwyr’ sy’ wedi ei hymdreiddio.

Wrth fagu fy mhlant yng Nghymru, dwi’n sicr fe fydden nhw’n tyfu lan gyda theimlad o gysylltiedigrwydd fy mod i byth wedi teimlo i’m gwlad. Dwi’n eithaf eiddigeddus o’r rhai sy’n teimlo “crafangau Cymru’n dirdynnu [yn eu] bron.”

Y iaith Gymraeg yw’r allwedd i’r holl gysylltiedigrwydd a chyfoeth diwylliannol. Felly, dwi’n hapus i ddilyn fy ngŵr – yr eog – nôl i’r afon o’i enedigaeth. Os fi wedi dysgu unrhywbeth wrth fy nheulu Cymreig, hynny yw’r pwysicrwydd o basio’r iaith ymlaen at y genhedlaeth nesaf. Dwi’n gobeithio fy fydd fy mhlant yn chwilfrydig i weld y byd mawr eang ond erbyn amser setlo lawr, os does dim un ohonynt yn teimlo fel eog, wel yffarn, byddai’n neud nhw deimlo’n euog!