Ond oedd hi’n dipyn o beth i weld Benjamin Zephania’n camu mas ar y Maes eleni? Roedd hi’n bleser i weld bardd o Loegr yn mentro mewn i’r diwylliant Cymreig mor fodlon a diduedd. Ar ei raglen deledu ar BBC4 wedodd,
“I feel kind of ashamed that here I am, a British person talking about multi-culturalism, and I can speak Urdu but I can’t speak Welsh.”
Dwi’n gobeithio yr oedd cynhyrchwyr ‘Cariad at Iaith’ yn talu sylw at hwnna; fe fydde fe’n gystadleuydd gwych!
Wnes i gyd-synfyfyrio gydag e pan aeth i weld seremoni Gorsedd y Beirdd a dysgu am gerdd dant. Fel dieithryn, mae hi’n fyd hollol ryfeddol. Ond i fi, uchafbwynt y rhaglen oedd Twm Morys yn perfformio cynghanedd yn Saesneg. Mae’n rhaid i fi gyffesu dydw i byth wedi deall cynghanedd tan ‘ny. Roedd e wastod ‘di swnio i’n ‘nghlust i fel clymau tafod – rhy gymhleth i fi ddeall. Ond wrth glywed cynghanedd yn fy iaith i, fe darodd pŵer a hud y cyfrwng fel taranfollt – nes i ddeall o’r diwedd. Er hynny, wnaeth e hala fi i deimlo braidd yn drist hefyd wrth sylweddoli pa mor bell sy’ da fi i fynd nes ‘mod i’n gallu gwerthfawrogi barddoniaeth yn y Gymraeg.
Un peth naeth wneud i fi deimlo’n anghyffyrddus oedd diwedd y rhaglen pan wedodd Zephania:
“They’re not pushing it on you. This is not Welsh culture trying to take over English culture… it just happens for them. Take it or leave it.”
Pam oedd e’n gorfod egluro hynny tybed? Mae’r Eisteddfod yn digwydd yng Nghymru wedi’r cwbl – nid Lloegr!
Newydd frwdfrydu o’i ymweliad i’r Eisteddfod, cyhoeddodd Zephania dyle’r Gymraeg cael ei ddysgu yn ysgolion Lloegr. Syniad grêt… ond annhebygol dwi’n meddwl. Pam fydd plant eisiau dysgu’r Gymraeg tra dy’ nhw ddim gwybod braidd dim am y wlad a’i lle ym Mhrydain? Pwysicach yn fy marn i yw dysgu hanes Prydeinig – sy’n cynnwys Iwerddon, yr Alban a Chymru. Eto, annhebygol. Fe fydd hynny yn codi gormod o gwestiynau llechwith am imperialaeth Lloegr a’i echryslonderau.
Yn fy mhrofiad i, mae’r genedl hŷn yn Lloegr yn cael trafferth mawr i dderbyn y ffaith bod Prydain wedi cael ei neud yn ‘fawr’ ar gefnau’r rhai yr oedd hi wedi sathru arnynt. Dwi’n cofio cael sgwrs am India:
“Fe gipiom ni adnoddau eu gwlad, eu gorfodi nhw i siarad Saesneg a’u troi nhw’n ddinasyddion ail-ddosbarth yn eu gwlad eu hun,” wedais i.
“Ah, but at least we gave them roads,” daeth yr ateb.
Felly beth roesom ni i’r Cymry, tybed? Dwi’n dal i bendroni ar hynny.