Caru’r Casawyr

Mae fy nhad yn ddyn hoffus, hael ac yn hwyl ond diawl ma’ fe’n joio cwyno. Mae gwylio teledu gyda fe yn dipyn o brofiad. Mae e’n cwyno am bobl hyll, tew, menywod sy’ ddim yn ddigon ‘benywaidd’, a dyw e ddim yn hoffi acennau rhanbarthol. Heblaw am Carol Kirkwood sy’n neud y tywydd. Mae hi fel Viagra i ddynion dros chwedeg-pump. Pan mae ‘Vox pops’ ar y newyddion, ac mae Joe Blogs – neu, Joe Muhammad – yn rhoi ei farn am bris pysgod, hoff ebychiad fy ‘nhad yw:

“Look at this idiot. He can barely string a sentence together.”

Does dim ots beth yw eu hiaith, mae wastod rhai sy’n snobyddlyd am y ffordd mae rhai eraill yn defnyddio’u hiaith. Mae’n rhaid i fi gyfaddef, fi’n mwynhau cywiro Saensneg slac pobl eraill; fi’n euog o ddileu collnod anghywir o fwrdd du siop goffi. Fi hefyd wedi cael fy nghywilyddio ym Mharis wrth siarad fy Ffrangeg gorau ond i’r gweinydd ymateb yn Saesneg.

Felly, mae sylwebaeth Alun Cairns, bod rhaid i’r Cymry Cymraeg fod yn “tolerant and supportive” tuag at ddysgwyr, ychydig bach fel gweud “dylse pawb fod yn garedig ac yn hoffus drwy’r amser.” Dyw’r Cymry Cymraeg ddim yn rhywogaeth wahanol. Fe fydd rhai ohonynt yn gefnogol a rhai eraill yn ffroenuchel tuag at ddysgwyr – yr un peth fel y Saeson, y Ffrancwyr neu unrhyw bobl arall.

Mae’n rhaid i fi weud, fi wedi cael profiad hynod o galonogol wrth ddysgu’r iaith Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o bobl fi wedi cwrdd wedi bod yn gefnogol dros ben. Dim ond unwaith ges i fy mychanu gan Gymro Cymraeg. Ond yffarn, roedd hi’n dipyn o glats. Cywilydd cyhoeddus go iawn.

Roedd hi’n rali dros yr Iaith Gymraeg 2013 yng Nghaerfyrddin a ro’n i newydd gynhyrchu cyfres deledu o’r enw Fi Neu’r Ci. Roedd hi’n rhaglen adloniant ysgafn pur – y math o raglen efallai fe fyddech chi’n gweld ar ITV neu C5. Y math o raglen fydde’n ‘nhad i’n casáu. Ond dim ots – ro’n ni ddim yn ceisio denu pobl dros 65 – mae’n nhw’n gwylio S4C ta’beth. Ro’n ni eisiau denu pobl ifanc, i gynnig yr un math o hwyl sydd ar gael ar y sianeli Saesneg. Doedd rhai o gyfranwyr y rhaglen ddim yn siarad Cymraeg yn fendigedig – roedd sawl un yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Yn y bôn, nid nhw oedd y bobl ry’ ni arfer gweld ar S4C. Ond ro’n nhw eisiau bod yn rhan o’r rhaglen – hynny yw, i gyfrannu at y gymuned a’r diwylliant Cymreig.

Nôl at y rali. Roedd cawr o’r gymuned Gymreig lleol ar y llwyfan yn pregethu ei farn. Ond yn lle tynnu’r dorf at ei gilydd, penderfynodd ddiystyru fy rhaglen fach i. Cwynodd y person mewn sylw am safon iaith fy nghyfranwyr:

“Nid hwnnw yw’r iaith ni eisiau achub!” ebychodd.

Ro’n i ar fin rhedeg i ffwrdd yn fy nagrau pan welais i fy chwaer yng nghyfraith. Roedd hi’n mynnu fy mod i’n parhau ar y daith. Fe wnes i – yn llythrennol ac yn ffiguraidd. Mae croeso i’r Cawr ei farn – yn gwmws fel fy ‘nhad. Mae croeso i’r ddau ohonynt floeddio at y teledu nes eu bod nhw’n grug. Ond dy’ nhw ddim yn gallu stopio fi a phobl fel fi, i ddefnyddio eu hiaith. Mae goddefgarwch yn heol ddwyffordd. Os bod rhaid i’r Cymry Cymraeg oddef Cymraeg ceffyl ni’r dysgwyr, wel mae’n rhaid i ni’r dysgwyr oddef agwedd y Cymry Cymraeg prin sy’n snobyddlyd. Mae’n iach i gywiro iaith pobl ambellwaith ond does dim byth esgus i’w bychanu.

Wnes i ddim ymateb i’r Cawr ar y pryd. Fe ddylen i fod wedi. Dyma beth fydde’n i wedi gweud:

Mae’n flin ‘da fi glywed eich bod chi wedi casáu fy nghyfres, ‘Fi Neu’r Ci’. Rwy’n deall nad yw’r rhaglen at ddant pawb. Er mae hawl ‘da chi eich barn am y rhaglen, does gennych chi ddim hawl i fychanu’r bobl sy’n cymeryd rhan ynddi. Yr unig beth wnaethon nhw wneud oedd defnyddio eu hiaith eu hunain, y Gymraeg – achos mae’r iaith yn eiddo iddyn nhw fel mae’n eiddo i chi. Rydych chi’n ffodus iawn i gael yr iaith Gymraeg o’r crud a bod chi’n gallu siarad Cymraeg o’r safon uchaf. Dyw’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg ddim yn gallu cynganeddu, neu efallai treiglo’n iawn bob tro, ond maen nhw’n dewis siarad Cymraeg serch hynny, felly peidiwch troi eich cefn arnyn nhw a pheidiwch â’u bychanu. Efallai mai Cymraeg yw iaith y nefoedd ond dim ond ni feidrolion sy’n ei siarad – cofiwch hynny.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s