Mae rhai wedi awgrymu fy mod i wedi cael ‘tröedigaeth’ ers i fi symud i Gymru. Rwyf wedi ymdaflu at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant fel pe tase’n i’n ceisio bod yn fwy Cymreig na Chymraes. Dwi’n deall efallai ei bod hi’n edrych fel ‘ny ambellwaith. Dydw’i ddim yn cuddio fy nheimladau am y pethau Seisnigaidd sy’n fy mhrofocio – mae’n haws i’w gweld nhw ar yr ochor hon o’r bont Hafren. Ond mae’r gwir yn fwy cymhleth.
Mae’n rhaid i fi gyfaddef, dwi’n cael gwefr ddireidus o weld fy mam brenhingar yn sipian tê yn ddieuog o fwg gyda’r arwyddair “twll tin i’r cwîn”. Ond eto, roedd fy mam yng nghyfraith – cenedlaetholwraig falch – yn eithaf partïol i’r frenhines hefyd. Mae amryw fân addurn yn harddu ei chartref – yr un mor anghydryw â brechdan ham mewn synagog. Ry’ ni i gyd yn llawn gwrthddywediadau ontife?
Ac yn awr am gyfaddefiad fy hun: dwi’n eithaf hoffi’r teulu Brenhinol. Ffiw! Rwyf wedi ei weud e! Mae rhywbeth am blwc y dywysoges Ann a’i hwyneb sur yn osgoi ei herwgipiwyr, am Kate a Wills yn siopa yn Asda Llangefni, y ffaith bod Zara Phillips wedi dewis priodi Shrek! Wel wrth gwrs mae ‘na falwr cachu mawreddog ar gael a senoffobig hynafol hefyd ond mae cwpl o rein ym mhob un teulu nagoes e?
A nawr mae tywysoges newydd yn eu plith. Yay! Party popper for one please. Ni fydd fy nheulu na ffrindiau Cymreig yn becso taten. Dyw nhw ddim yn gweld bod teulu Brenhinol Lloegr yn deulu Brenhinol i Gymru. Dwi’n tybio ambellwaith, sut bydd cenedlaetholdeb Cymru’n wahanol pe tase’r blincin Saeson ddim wedi lladd Llewelyn. Efallai, yn y pendraw fe fyddech chi wedi dewis bod yn werinbennaeth tabeth ond bydde fe wedi bod yn neis cael y dewis. Mae digon ganddom ni’r Saeson i deimlo cywilydd am jingoaeth Lloegr.
Er hynny, Lloegr yw fy mamwlad. Felly, nagw, dydwi ddim wedi anghofio fy ‘ngwreiddiau. Dwi wedi syrthio mewn cariad gyda Chymru ond dwi’n Saesnes o hyd. Dyna rhywbeth dyw fy nghroten fach ddim yn angohofio chwaith.
“Dwi’n caru ti Mami…” meddai hi, “er bod ti’n Saesnes.”